Rali i alw am enw uniaith Gymraeg i'r Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Rali
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Ruth yn annerch y dorf ar risiau'r Cynulliad brynhawn Sadwrn

Mae ymgyrchwyr wedi galw am enw uniaith Gymraeg i'r Cynulliad ddydd Sadwrn mewn rali ym Mae Caerdydd.

Daeth tua 100 o bobl i'r digwyddiad ar risiau'r Senedd brynhawn Sadwrn, gan gynnwys gwleidyddion fel arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Bydd Aelodau Cynulliad yn pleidleisio ar fater yr enw ddydd Mercher, wedi cefnogaeth i gynnig y cyn-brif weinidog Carwyn Jones fis diwethaf i roi enw dwyieithog i'r sefydliad, sef Senedd Cymru a Welsh Parliament.

Cafodd y cynnig hwnnw ei wrthwynebu gan Blaid Cymru, ac fe ddywedodd Mr Price bryd hynny y byddai enw Cymraeg yn "perthyn ac yn eiddo i bawb yng Nghymru".

Mae dros 30 o ffigyrau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Michael Sheen, Nigel Owens a Cerys Matthews, wedi arwyddo llythyr agored yn galw am enw Cymraeg yn unig i'r Senedd.

Disgrifiad,

Dywedodd Adam Price y byddai enw uniaith Gymraeg yn symbol o'r "Gymry newydd ry'n ni eisiau ei greu"

Dywedodd David Williams o Gymdeithas yr Iaith - trefnwyr y rali - bod "egwyddor o bwys aruthrol yn y fantol yn y ddadl hon sy'n mynd tu hwnt i enw ein Senedd genedlaethol yn unig".

"Mae'n gwestiwn am le'r Gymraeg yn ein bywyd cyhoeddus," meddai.

"Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld mwy a mwy o ymosodiadau ar ddefnydd y Gymraeg, yn enwedig achos twf yr adain dde eithafol.

"Mae llawer iawn gormod o bobl yn dadlau neu'n derbyn nad yw defnydd y Gymraeg yn gynhwysol.

"Mae gyda ni gyfle i ddangos gydag enw uniaith i'r Senedd bod yr iaith yn cynnwys pawb ac anfon neges am ei statws arbennig yng Nghymru."