Dem Rhydd Cymreig yn lansio ymgyrch etholiadol i atal Brexit

  • Cyhoeddwyd
Jo Swinson
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Jo Swinson yn y lansiad mai'r etholiad yma, o bosib, yw cyfle olaf pobl i atal Brexit

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi addo atal Brexit a buddsoddi £50bn ar wasanaethau cyhoeddus ar draws y DU wrth lansio eu hymgyrch etholiadol ddydd Mawrth.

Mae'r blaid yn dweud fod ganddyn nhw "weledigaeth uchelgeisiol i atal Brexit" ac maen nhw eisiau "taclo'r argyfwng newid hinsawdd".

Fe fydd yr ymgyrch yn rhoi pwyslais ar fuddsoddi'r hyn maen nhw'n ei alw yn "Bonws Aros" o £50bn ar wasanaethau cyhoeddus ac i daclo anghydraddoldeb.

Mae'r blaid yn dweud y bydden nhw'n darparu digon o arian i insiwleiddio pob cartref yn y DU erbyn 2030.

Maen nhw hefyd wedi'i ymrwymo i gyllido GIG Cymru i helpu trin problemau iechyd meddwl yr un fath ag iechyd corfforol.

Cyn y lansiad yng Nghaerdydd, dywedodd arweinydd y blaid yng Nghymru, Jane Dodds: "Mae hon yn weledigaeth uchelgeisiol i atal Brexit, taclo'r argyfwng newid hinsawdd, rhoi'r dechreuad gorau i bob plentyn ac i drawsnewid iechyd meddwl."

Disgrifiad,

'Atal Brexit' yn flaenoriaeth Dem Rhydd

Ar hyn o bryd mae gan y blaid un sedd yng Nghymru ar ôl ennill isetholiad Brycheiniog a Sir Faesyfed yn Awst 2019.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymuno â "Chynghrair Aros" gyda Phlaid Cymru a'r Blaid Werdd a bydden nhw ddim yn sefyll mewn wyth etholaeth yng Nghymru.

Wedi'r rali, awgrymodd Ms Dodds y byddai ei phlaid yn gyrru sawl AS o Gymru i San Steffan wedi'r etholiad.

"Rydyn ni'n uchelgeisiol iawn, wrth gwrs, rydyn ni'n dweud y byddwn yn ennill o leiaf pedair sedd, ac mae'n bosib enillwn ni fwy."

'Cyfle olaf'

Ymunodd arweinydd Prydeinig y blaid, Jo Swinson, â'r rali yng Nghaerdydd.

Ychwanegodd Ms Swinson bod "hwn yn gyfle i bobl ddweud eu bod eisiau atal Brexit ac mae'n bosib mai dyma fydd y cyfle olaf i wneud hynny".

Ychwanegodd Ms Dodds y byddai'r blaid yn "sefyll ochr yn ochr gyda'r Cymry hynny sydd eisiau gweld Cymru'n aros o fewn yr Undeb Ewropeaid a thaclo problemau sydd wedi'u hanwybyddu yn rhy hir".

Dywedodd Rhys Taylor o'r Democratiaid Rhyddfrydol bod gan ei blaid "neges glir, rydyn ni am atal Brexit, gwrthdroi Erthygl 50" a "buddsoddi £50bn ychwanegol... ar wasanaethau cyhoeddus, yr amgylchedd a taclo anghydraddoldeb".