Democratiaid Rhyddfrydol yn ennill isetholiad arwyddocaol

  • Cyhoeddwyd
jane doddsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe enillodd Jane Dodds gyda mwyafrif o 1,425 o bleidleisiau

Mae Jane Dodds o'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ei hethol yn Aelod Seneddol ar gyfer Brycheiniog a Sir Faesyfed, gan gipio'r sedd oddi ar y Ceidwadwyr.

Fe enillodd Ms Dodds - arweinydd y blaid yng Nghymru - gyda 13,826 o bleidleisiau, mwyafrif o 1,425.

Daeth y sedd yn wag yn dilyn deiseb galw 'nôl i'r AS blaenorol, y Ceidwadwr Chris Davies, a ddaeth yn ail yn yr isetholiad.

Des Parkinson o Blaid Brexit oedd yn drydydd, gyda'r Blaid Lafur yn gorffen yn bedwerydd.

Roedd Plaid Cymru a'r Blaid Werdd wedi penderfynu peidio â chynnig ymgeisydd, gan ddatgan eu cefnogaeth i'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Fe wnaeth 31,887 (59.7%) o etholwyr fwrw pleidlais. Roedd 74.6% wedi pleidleisio yn yr etholiad cyffredinol yn 2017.

Daeth UKIP yn olaf, tu ôl i Official Monster Raving Loony Party.

Mae'r canlyniad yn golygu mai dim ond mwyafrif o un sydd gan y Blaid Geidwadol - a'r Prif Weinidog newydd, Boris Johnson - yn San Steffan.

Yn dilyn ei buddugoliaeth, fe ddywedodd Ms Dodds: "Bore da... ac mae'n fore da iawn yma ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed.

Aeth ymlaen i ddweud y bydd hi'n mynd i chwilio am Boris Johnson cyn gynted ag y mae hi'n cyrraedd San Steffan, a dweud wrtho: "'Stopiwch chwarae gyda dyfodol ein cymunedau, a gwrthodwch Brexit heb gytundeb nawr'."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Chris Davies ei ailddewis fel ymgeisydd y Ceidwadwyr, er iddo golli ei sedd yn gynharach eleni

Mewn araith fer, fe ddiolchodd Mr Davies i'w deulu am eu cefnogaeth, gan gyfaddef bod y "misoedd diwethaf wedi bod yn amser anodd".

Dywedodd ei fod "wedi bod yn fraint gwasanaethu pobl Brycheiniog a Sir Faesyfed" dros y pedair blynedd diwethaf.

Roedd y canlyniad yn un "anffodus" i'r Blaid Lafur, yn ôl eu hymgeisydd Tom Davies.

Dywedodd fod y canlyniad yn dangos fod pobl yn "gwrthod Boris Johnson" a'r Ceidwadwyr.

'Budd y genedl'

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Adam Price AC: "Yn yr amseroedd difrifol iawn hyn, yr hyn sydd ei angen yw gwleidyddiaeth aeddfed sy'n dodi buddiannau'r genedl cyn buddiannau pleidiol.

"Y peth pwysicaf oll yn yr is-etholiad yma oedd i osod gwleidyddiaeth bleidiol i'r un ochr, a sicrhau AS i Frycheiniog a Maesyfed sydd o blaid Aros.

"Dyna pham y bu i Blaid Cymru benderfynu peidio sefyll ymgeisydd yn yr is-etholiad yma - gan yr oeddem yn credu mai dyna oedd y peth cywir i'w wneud er budd y genedl."

Dywedodd Des Parkinson o Blaid Brexit: "Os edrychwch chi ar y cyfanswm, y Brexiteers enillodd. Mae'n rhaid i'r prif weinidog ein cael ni allan o'r UE mewn modd clir erbyn diwedd Hydref.

"Os na fydd yn gwneud hynny, yna bydd ei lywodraeth mewn trafferth dybryd."