Dysgu byw gyda pharlys yr ymennydd

  • Cyhoeddwyd
Teulu DaviesFfynhonnell y llun, Llinos Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Celyn yn chwech oed bellach ac yn byw gyda'r cyflwr sy'n effeithio ar hanner chwith ei chorff

Greddf mam a wthiodd Llinos Davies o Gastell Newydd Emlyn i ymchwilio ar y we i weld beth oedd yn bod â'i merch, Celyn.

Doedd Celyn, a oedd yn bedwar mis oed ar y pryd, ddim yn defnyddio ei braich chwith gymaint ag oedd hi'n defnyddio'i braich dde, ac roedd yn ddigon i wneud i Llinos boeni.

"O'dd hi ddim yn symud ei llaw chwith hi gymaint. O'dd e'n rhywbeth o'ddech chi'n sylwi mwy, a meddwl 'ody hwnna'n normal?' achos doedd dim syniad 'da fi," meddai.

"Dechreues i Googlo - fel dylech chi ddim - a dechre meddwl falle fod e'n dangos arwyddion teip o barlys yr ymennydd (cerebral palsy).

"Es i at y doctor a 'nath hi gael pip a'n cyfeirio ni at physio a paediatregydd, a gawson ni'n diagnosis yn go gloi, pan oedd Celyn tua wyth i naw mis, bod parlys yr ymennydd arni."

Ffynhonnell y llun, Llinos Davies
Disgrifiad o’r llun,

Sylwodd Llinos nad oedd Celyn yn defnyddio llawer ar ei braich chwith pan oedd hi'n fabi

'Wait and see'

Oherwydd ei holl waith ymchwil, roedd Llinos yn disgwyl y diagnosis, ond roedd dal yn rhywbeth roedd rhaid iddi geisio dod i delerau ag ef.

"Chi'n 'i glywed e a chi'n ca'l ofan yn syth, achos chi'n dychmygu pob teip o beth," meddai. "Achos o'dd hi mor fach yn cael diagnosis, o'ddech chi'n meddwl, 'pwy teip o fywyd fydd 'da hi?'.

"O'dden nhw ffili gweud faint o'dd hi am allu ei wneud, faint fydde hi'n gallu ei ddatblygu. 'Na'i gyd ma' nhw'n gallu ei ddeud yn aml yw 'wait and see', a ma' hwnnw'n rhwystredig.

"Nawr ma' syniad lot gwell 'da ni o beth yw bywyd i Celyn a faint mae'n effeithio arni hi, ond ar y pryd ma'n galed, achos do's dim ffordd 'da chi o wybod faint mae'n mynd i effeithio ar eich plentyn chi."

Mae nifer o fathau gwahanol o barlys yr ymennydd, sy'n golygu ei fod yn effeithio ar wahanol bobl mewn gwahanol ffyrdd, fel roedd Llinos yn ei egluro mewn cyfweliad a chlip fideo ar Raglen Aled Hughes ar BBC Radio Cymru, dolen allanol.

"Y teip sy 'da hi yw hemiplasia, lle mae hanner y corff fel arfer yn cael ei effeithio.

Ffynhonnell y llun, Llinos Davies

"Gyda Celyn, ei hanner chwith hi yw e. Mae ei choes hi wedi cael ei effeithio tamed, ond dim byd o werth. Y peth sy'n cael ei effeithio fwyaf i Celyn yw ei braich a'i llaw hi.

"Mae e fwy fel gwendid. Dyw hi ddim yn gallu symud ei bysedd a'i llaw, fel mae hi'n gallu 'da'r llall."

Help gyda bywyd bob dydd

A hithau bellach yn chwech oed, mae Celyn yn derbyn cymorth a chefnogaeth gan yr elusen Bobath, un o'r elusennau sydd yn cael ei ariannu'n rhannol gan Plant Mewn Angen.

Yn y ganolfan arbenigol yng Nghaerdydd, mae Celyn yn derbyn therapi dwys sydd yn ei helpu i wneud pethau y byddai hi'n eu ffeindio'n anoddach oherwydd parlys yr ymennydd, pethau fel gwisgo ei hun, agor pacedi creision a thynnu ei siwmper.

"Y pethe bydd Celyn yn eu cael yn anodd mewn bywyd, yw'r pethe bach mewn bywyd y'n ni'n eu cymryd yn ganiataol - pethe sydd angen dwy law, fel bwyta a'r ffordd orau o dorri bwyd iddi hi," fel yr eglurai Llinos.

Ffynhonnell y llun, Llinos Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Celyn yn cael cymorth arbenigol i'w helpu i wneud tasgau bob dydd

"Ni'n ffodus iawn i gael y cyfle i fynd 'na rili. Pan cafodd Celyn ei chyfeirio yno gynta', o'dd hi rhyw 18 mis. Dwi'n meddwl, ar y pryd eu bod nhw'n cyfeirio pedwar plentyn o ardal Dyfed-Powys i gyd - felly o'dd e mor dda ein bod ni'n ca'l mynd. Maen nhw jest yn wych.

"Achos bo' nhw'n elusen, maen nhw'n dibynnu gymaint ar godi arian i drin mwy a mwy o blant, gymaint â maen nhw'n gallu - a dy'n nhw byth yn gallu trin pawb, na digon."

Plant Mewn Angen

Yn ddiweddar, cafodd Celyn y cyfle i fynd i wersyll Y Jyngl a gafodd ei drefnu gan yr elusen, ond a oedd wedi cael ei ariannu'n gyfan gwbl drwy Plant Mewn Angen.

"O'dd y camp cyfan, pythefnos ar gyfer chwech plentyn, wedi ei ariannu gan Plant Mewn Angen. Ni gyd yn gyfarwydd â gweld Pudsey a'r digwyddiadau ar y teledu - ond o'dd ei weld e'n cael ei ariannu fel 'yn yn rili neis.

"Mae'r arian yn helpu - a mae'n mynd i gymaint o wahanol lefydd. 'Sai'n credu fod pobl yn sylweddoli beth a faint mae e yn ariannu a mae'n grêt."

Ffynhonnell y llun, Llinos Davies

Ond wrth gwrs, beth sy'n bwysig i Celyn yw ei bod yn cael mynychu lle gyda ffrindiau sydd â'r un cyflwr â hi, yn cael dysgu pethau pwysig, ac yn cael hwyl.

"Nes i ddysgu i agor paced creision. A ges i ffrindie newydd. Fi wedi gwneud lasys a cau sip cot a dwi wedi cael beic heb stablisers!" meddai.

Hefyd o ddiddordeb: