Methu cael plant: Y gobaith a'r siom

  • Cyhoeddwyd
Amanda yn mynd â'r ci am dro
Disgrifiad o’r llun,

Amanda, sy'n wreiddiol o Sir Benfro ond bellach yn byw yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr

"... dyna'r peth mwya' chi moyn yn y byd ond dydy e ddim yn digwydd."

Dyma stori Amanda James am fethu cael plant.

Mae Amanda yn sôn am y gwewyr o drio am flynyddoedd i gael babi heb lwyddo ac yn galw am bobl i siarad yn fwy agored am y pwnc.

Fe wnes i gyfarfod Alun yn 2006. Fe ddechreuon ni drio am deulu ar ôl bod yn caru am tua blwyddyn a hanner ond oedden ni'n gwybod bod y cloc biolegol yn ticio ac o'n i wedi croesi'r oedran o 35 pan maen nhw'n dweud fod mwy o broblemau yn debygol wrth drio am deulu.

Buon ni'n trio am chwe mis cyn gweld meddyg a phan wnaeth y syniad o IVF gael ei grybwyll roedd yn sioc i feddwl falle fod problem a fyddai angen help.

Buon ni'n trio am rhyw 18 mis cyn i mi syrthio'n feichiog. O'n ni wedi cael sioc achos o'n i ddim yn meddwl bydde fe'n digwydd. O'n i'n teimlo'n hapus a theimlo rhyddhad. Achos fi'n hŷn 'oedd e wedi hala mwy o amser - ond o'r diwedd, o'n ni wedi cael bach o lwc.

Colled

Yn anffodus gollon ni'r babi a sylweddoli fod angen help arnom a fod angen triniaeth.

Ond, yn y cyfamser, gan mod i wedi dweud wrth y meddyg 'mod i'n feichiog roedden nhw wedi cymryd enw fi oddi ar y rhestr IVF. A gan mod i'n 38 o'n i wedi mynd yn rhy hen i gael triniaeth gan yr NHS.

Felly roedd rhaid ariannu'r peth ein hun - ac mae'n gostus iawn.

Fe gaethon ni sawl ŵy ac ar ôl triniaeth ICSI lle oedd y sberm yn cael ei roi i'r wyau fe gafon ni tri embryo. Ar ôl tri diwrnod roedd y tri embryo wedi cael eu rhoi nôl yn fy nghorff i.

O'n i wedi enwi'r tri embryo gyda ffrindie yn Tom, Dick a Harry ac o'n i arfer siarad gyda'r embryos ac annog nhw i aros.

Yn anffodus doedd e ddim wedi gweithio. Dw i'n cofio fod nôl yn gweithio yn yr ysgol a darganfod fod y peth ddim wedi gweithio. Roedd noson rhieni ac o'n i'n teimlo'n ofnadwy. Ges i ganiatâd i ddod adref a dyna'r peth gorau achos o'n i'n galaru.

Roedd yr arian wedi mynd yn wastraff a'r holl obeithion wedi mynd.

O'n i'n meddwl fydde rhyw fath o obaith o gael tri embryo - bydde o leia' un yn aros. Ond dyna fel fuodd.

Disgrifiad o’r llun,

Bu Amanda yn dweud ei stori ar raglen Dros Ginio, Radio Cymru

Amser anodd

Roedd yn amser ofnadwy ac o'n i ddim yn gwybod sut ar y ddaear bydden ni'n dod o'r sefyllfa. Ond mae amser yn gwneud i chi wella ac mae'n rhaid i chi fynd ymlaen.

Dyw pobl ddim yn gwybod beth i ddweud achos dydych chi ddim yn siarad am y pethe hyn. Dyw e ddim y math o beth chi'n sgwrsio amdano yn yr ystafell staff.

Ond mae pobl yn siarad trwy'r amser am fynd yn feichiog ac am eu plant ac allwch chi fod yn eistedd fan'na a dyna'r peth mwya' chi mo'yn yn y byd ond dydy e ddim yn digwydd ac mae'n rhaid chi adael yr ystafell achos mae'n rhy boenus.

Gall pobl ddim sylweddoli beth mae fel, oni bai bod nhw wedi bod trwy'r peth eich hun.

Roedd pobl yn dweud 'ymlaciwch, fe wneith e ddigwydd' a wnaeth rhywun ddweud 'mae angen newid y tarw' - mae'n rhyfedd bod pobl yn gallu bod mor ansensitif.

Onwards and upwards ac what will be will be - dw i wedi clywed y clichès i gyd ond dy' nhw ddim yn help.

Y peth gorau allwch chi wneud yw gwrando.

Dod i dermau

Erbyn hyn mae Alun a fi yn gorfod dod i dermau gyda beth sy' wedi digwydd i ni.

Mae 'na amserau o'r flwyddyn pan mae hyn yn anodd iawn. Dw i'n gweld Nadolig fel rhywbeth i blant a 'dw i'n casáu Nadolig.

Mae Sul y Mamau yn anodd iawn - ni gyd â chyfrif Facebook neu Twitter ac mae llifogydd o newyddion am Sul y Mamau. Mae'n anodd iawn achos mae'n gwneud i chi gofio byddwch chi byth yn fam.

Mae'n atgoffa chi o'ch methiant i fod yn rhan o deulu.

Mae'r holl broses wedi rhoi llawer o straen ar ein perthynas ni. Oedd 'na sawl tro lle roedd y ddau ohonon ni bron a gwahanu. Roedd Alun dan straen achos roedd e'n teimlo ar fai - ac o'n i dan straen am mod i'n teimlo ar fai.

Er ein bod wedi rhoi lan ar y syniad o gael blant, yn eich calon chi byth yn gwbl rhoi lan ar y gobaith.

Pan chi'n dechrau ar y menopos mae wedi dod yn fwy amlwg i fi nad oes gobaith i ni gael plant, mae hwn yw'r drws yn cau ar y daith.

Hefyd o ddiddordeb