Rhybudd am lifogydd wedi glaw trwm ac eira
- Cyhoeddwyd
Mae rhybudd am lifogydd mewn grym wedi i law trwm ac eira daro rhannau o ganolbarth a de Cymru.
Roedd rhybudd am eira mewn grym gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer 11 sir yng Nghymru nes 10:00.
Ond mae rhybudd arall am law yn weithredol ar gyfer 13 o siroedd nes 23:45 nos Iau.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi gosod rhybudd am lifogydd, dolen allanol ar gyfer Afon Tefeidiad yn Nhrefyclo, Powys.
Dywedodd yr awdurdodau fod ceir wedi bod yn sownd dros nos mewn rhai ardaloedd oherwydd yr eira ac nad oedd modd gyrru ar rai ffyrdd ym Mhowys, Ceredigion a Chastell-nedd Port Talbot.
Does dim ysgolion wedi cyhoeddi eu bod ar gau.
Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod yn derbyn nifer o alwadau yn ymwneud â'r tywydd, gan annog pobl i roi rhagor o amser i deithio.
Roedd y Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio y gall hyd at 30mm o law gwympo dros rannau o ganolbarth a de Cymru ddydd Mercher, a hyd at 60mm ddydd Iau.
Dywedodd Trafnidiaeth Cymru bod llifogydd ar y rheillffordd yn Sir Gaerloyw yn achosi oedi ar drenau rhwng Caerloyw a Chaerdydd.
Fe wnaeth gwrthdrawiad gau Ffordd Blaenau'r Cymoedd - yr A465 - rhwng Clydach a Brynmawr, ac fe gafodd yr A4061 yn Hirwaun hefyd ei chau yn rhannol.
Roedd yr A482 yn Llambed, Ceredigion wedi'i rhwystro'n rhannol a doedd dim modd gyrru ar hyd yr A4221 rhwng Abercraf a Choelbren ym Mhowys fore Iau oherwydd yr eira.
Bu traffig trwm ar yr A48 yn ardal Llanedern tuag at gyfeiriad Caerdydd hefyd yn dilyn gwrthdrawiad rhwng pum car.
Nos Fercher bu'r A470 ynghau rhwng Merthyr Tudful a Libanus oherwydd gwrthdrawiad gafodd ei achosi gan yr amodau.
Yn Ystradgynlais dywedodd yr heddlu nos Fercher na ddylai pobl fentro allan ar y ffyrdd "oni bai fod rhaid".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2019