Cyffuriau ffibrosis systig ar gael 'o fewn wythnosau'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb gyda chwmni fferyllol allai olygu bod meddyginiaethau ar gael trwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol cyn diwedd y flwyddyn i bobl sy'n byw gyda ffibrosis systig.
Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ei fod yn "falch i gadarnhau" bod Vertex Pharmaceuticals wedi cytuno i'r cyffuriau Orkambi a Symkevi fod ar gael yng Nghymru ar yr un telerau ag yn Lloegr.
Roedd hynny'n dilyn "cyfnod byr ond dwys" o drafod a chydweithio rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr y cwmni.
Mae cleifion a'u teuluoedd wedi galw am fynediad i'r cyffuriau ers sbel, gan fod posib eu bod yn gwella symptomau ac ymestyn bywydau dioddefwyr.
Lleihau problemau anadlu
Mae Orkambi - sy'n costio dros £100,000 i bob claf - yn gwella defnydd o'r ysgyfaint ac yn lleihau problemau anadlu ac mae modd ei roi i blant mor ifanc â dwy oed.
Mae'r cyffur wedi bod ar gael mewn gwledydd fel yr Unol Daleithiau, Awstralia, a Gweriniaeth Iwerddon ond roedd yna ddadlau am gyfnod ynghylch y pris wrth geisio ei sicrhau ar bresgripsiwn yn y DU.
Llwyddodd trafodaethau yn Lloegr i sicrhau'r cyffur yn rhatach na £100,000 ymhob achos, ond mae'r ffigwr terfynol wedi'i gadw'n gyfrinach.
Dywedodd Mr Gething: "Roeddwn yn glir fy mod yn disgwyl i Vertex gynnig GIG Cymru yr un cytundeb a gafwyd gyda GIG Lloegr.... rwy'n falch i gadarnhau bod y disgwyliad hwnnw bellach wedi'i fodloni.
"Heddiw rwyf wedi cytuno amodau cytundeb mewn egwyddor fydd yn golygu bod gan gleifion yng Nghymru fynediad i Orkambi a Symkevi yn ogystal â mynediad o hyd i Kalydeco pan fo'r meddyginiaethau hyn yn briodol yn glinigol."
Wrth i'r ddwy ochr barhau â'r gwaith o gwblhau manylion y contract, ychwanegodd Mr Gething ei fod yn "ymwybodol iawn y bydd cleifion a'u teuluoedd yn disgwyl i'r meddyginiaethau hyn fod ar gael yn brydlon".
"Rwyf wedi gofyn i'r cytundeb gael ei gwblhau cyn diwedd mis Tachwedd felly, i ganiatáu i'r cleifion â'r flaenoriaeth uchaf gael mynediad i driniaeth ym mis Rhagfyr a phob claf cymwys yn cael cynnig o driniaeth o 2020," meddai.
Mae'r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan fam o Ferthyr Tudful sydd wedi bod yn brwydro i sicrhau Orkambi ar bresgripsiwn yng Nghymru.
Mae merch Rebecka Bow, Sofia, yn byw gyda ffibrosis systig.
Dywedodd Ms Bow ei bod yn teimlo "rhyddhad a llawenydd" bod yna gytundeb rhwng y gwneuthurwyr a Llywodraeth Cymru.
"Mae hyn yn mynd i achub bywydau plant," meddai.
"Mae wedi bod yn ymgyrch hir a chaled mewn cysylltiad â chyflwr anghyffredin.
"Mae wedi bod yn dorcalonnus, gan ein bod yn gwybod bod y cyffuriau yma'n bodoli a allai atal ysgyfaint plant rhag llenwi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd28 Awst 2018
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2018