ACau'n gwrthod cynnig enw uniaith Gymraeg i'r Senedd

  • Cyhoeddwyd
CynulliadFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae cynnig i sicrhau enw uniaith Gymraeg i'r Senedd ym Mae Caerdydd wedi cael ei wrthod gan Aelodau Cynulliad.

Mae'n golygu y bydd y sefydliad yn cael ei alw'n Senedd Cymru yn Gymraeg, a Welsh Parliament yn Saesneg, yn unol â chynnig gwreiddiol y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones.

Cafodd y gwelliant, dan enw'r AC Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth, i fabwysiadu'r enw Senedd Cymru yn unig ei drechu o 39 pleidlais i 16.

Mae'r aelodau hefyd wedi cefnogi cynnig gwreiddiol arall Mr Jones i alw ACau yn Aelodau o'r Senedd pan fydd teitl newydd y Cynulliad yn dod i rym yn swyddogol.

Cafodd cynigion Mr Jones gymeradwyaeth yr aelodau ym mis Medi ond roedd Plaid Cymru'n dadlau y byddai enw Cymraeg yn "perthyn ac yn eiddo i bawb yng Nghymru".

Roedd dros 100 o bobl mewn rali ym Mae Caerdydd ddydd Sadwrn, yn galw am enw uniaith Gymraeg.

Ddiwrnod cyn hynny fe wnaeth dros 30 o ffigyrau cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Michael Sheen, Nigel Owens a Cerys Matthews, arwyddo llythyr agored yn galw am enw Cymraeg yn unig i'r Senedd.