Apêl cwmni wedi i gyngor wrthod cynllun bwytai dadleuol

  • Cyhoeddwyd
Arwydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae yna arwyddion o wrthwynebiad i'r cynllun yn yr ardal

Mae cwmni datblygu'n apelio yn erbyn penderfyniad i wrthod cais cynllunio dadleuol i godi bwyty McDonald's a siop goffi Costa yn Sir Gaerfyrddin.

Cafodd cais Draycott Developments and Investments i ddatblygu tir ar gyrion Sanclêr ei wrthod gan bwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gâr ym mis Medi.

Mae'r cwmni'n dadlau y byddai dros 80 o swyddi newydd yn cael eu creu o ganlyniad i godi'r bwytai, fyddai ar agor ddydd a nos, ger cylchfan ar yr A40.

Roedd dros 270 o bobl leol wedi ysgrifennu llythyrau at y cyngor yn gwrthwynebu'r cynllun.

Cafodd y cais ei wrthod ar y sail bod y tir ddim o fewn ffiniau Cynllun Datblygu Lleol y cyngor sir.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r datblygwyr eisiau codi safle ar gylchfan Sanclêr fyddai ar agor 24 awr y dydd