Cyngor yn gwrthod cais dadleuol McDonald's a Costa i Sanclêr

  • Cyhoeddwyd
Arwydd

Mae cais dadleuol i godi bwyty McDonald's a siop goffi Costa yn Sanclêr, Sir Gaerfyrddin wedi ei wrthod gan gynghorwyr.

Penderfynodd y pwyllgor cynllunio i wrthod y datblygiad gan fod y safle y tu allan i dir y cynllun datblygu lleol.

Roedd dros 270 o bobl leol wedi ysgrifennu llythyrau at y cyngor yn gwrthwynebu.

Yn ôl McDonald's byddai'r datblygiad yn sensitif i'r ardal leol ac yn creu dros 60 o swyddi llawn a rhan amser.

Dywed gwrthwynebwyr y bydd datblygiad o'r fath yn niweidiol i fusnesau lleol ac i iechyd pobl, gan arwain at ordewdra.

Ymhlith y rhai oedd wedi mynegi pryder oedd meddygon teulu lleol, oedd yn dweud bod cysylltiad rhwng bwydydd o'r fath a gordewdra.

Bwriad y ddau gwmni oedd agor unedau ar gylchfan Sanclêr ar yr A40 - ffordd sy'n brysur, yn enwedig yn yr haf wrth i ymwelwyr deithio i Sir Benfro.

Yn dilyn ymweliad â'r safle, penderfynodd cynghorwyr wrthod y cais, gyda phob aelod o'r pwyllgor ond un yn pleidleisio yn erbyn y datblygiad.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sheila Phillips wedi bod yn cadw becws am dros 40 mlynedd

Bwriad McDonald's oedd agor bwyty fyddai'n agored 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, gyda lle i 100 i eistedd a modd archebu bwydydd o'r car.

Roedd datblygiad Costa yn llai, gyda lle ar gyfer tua 70 o gwsmeriaid.

Mae Sheila Phillips wedi bod yn gyfrifol am fusnes becws yn y dref am 40 mlynedd, ac mae'n dweud y bydd yr unedau newydd yn niweidiol i fusnesau lleol.

"Mae'n mynd i wneud gwahaniaeth i'r dref, ddim just i ni fel siop. Mae pawb yn mynd i syffro ryw ffordd neu'i gilydd.

"So nhw'n mo'yn e o gwbl. Achos maen nhw'n meddwl stopa nhw bobl ddod mewn i Sanclêr i 'wilio bwyd, bydd nhw'n mynd i McDonald's yn lle dod mewn i Sanclêr."

Disgrifiad o’r llun,

Bydd cael McDonald's yn rhoi marchnad arall i ffermwyr, yn ôl Adrian Wynne Roberts

Anghytuno fod y datblygiad yn niweidiol mae Adrian Wynne Roberts, sy'n ffermio'n lleol.

"Dwi 100% y tu ôl dewis McDonald's i ddod i Sanclêr achos dwi'n meddwl fel amaethwyr ni'n mynd i ennill.

"O ni'n mesur y pellter bore 'ma wrth fynd â'r plant i'r ysgol, ac o' ni'n ei wneud o'n ddwy filltir o'r ffarm yma felly mae cael marchnad arall i ni fel amaethwyr yn bwysig iawn i ni. "

Gwnaed cais i Costa a McDonald's am sylw ynglŷn â phryderon y gwrthwynebwyr.