Panel disgyblu'n diarddel cyn-brifathrawes am ymddwyn yn anonest

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Swn Y Don
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd dwy ysgol eu huno yn 2015 i greu Ysgol Sŵn Y Don

Mae cyn-brifathrawes ysgol gynradd wedi cael ei diarddel o'r gofrestr dysgu, ar ôl i banel disgyblu ddyfarnu ei bod wedi ymddwyn yn anonest.

Cafodd Wendy Rowlands ei diswyddo fel pennaeth Ysgol Sŵn y Don, yn Hen Golwyn yn 2018.

Clywodd gwrandawiad pum diwrnod yn Ewloe, Sir Fflint, nifer o gyhuddiadau yn erbyn Ms Rowlands ynglŷn â'r ffordd yr oedd yn rheoli cyfrifon yn Ysgol Sŵn y Don, a hefyd rhwng 2005 a 2015 yn Ysgol Penmaenrhos, lle'r oedd yn bennaeth cyn i'r ysgol uno gydag Ysgol Tan y Marian i greu Ysgol Sŵn y Don.

Roedd hi wedi gwadu cyhuddiad o ysgrifennu sieciau iddi hi ei hun am redeg cylch chwarae a sefydlwyd yn Sŵn y Don, ond dyfarnodd y panel yn ei herbyn.

Cyfaddefodd Ms Rowlands i nifer o gyhuddiadau ariannol eraill, yn cynnwys talu am barti staff, a oedd wedi ei gymeradwyo gan y llywodraethwyr, a thrip staff i Gaer, nad oedd wedi cael eu sêl bendith.

Roedd hi hefyd wedi prynu alcohol gydag arian yr ysgol, a thalu am ystafell mewn gwesty heb ganiatâd.

Celu cofnodion

Dyfarnodd y panel fod Ms Rowlands wedi ymddwyn yn anonest yn y ffordd y ceisiodd gelu cofnodion ariannol o olwg archwilwyr oedd yn edrych i mewn i gyfrifon yr ysgol.

Nid oedd Ms Rowlands yn bresennol yn y gwrandawiad, ond roedd wedi datgan nad oedd yr hyn a wnaeth yn ymddygiad annerbyniol yn broffesiynol.

Dyfarnodd y panel ei bod wedi ymddwyn yn anonest, ac aeth ymlaen i wneud gorchymyn yn ei diarddel o'r gofrestr ddysgu.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Wendy Rowlands ei diswyddo fel pennaeth Ysgol Sŵn y Don, yn Hen Golwyn yn 2018

Mae'r gwaharddiad yn dod i rym yn syth, ond gall Ms Rowlands wneud cais ymhen dwy flynedd i gael ei hailystyried i'w chynnwys ar y gofrestr.

Dywedodd cadeirydd y panel, Robert Newsome, eu bod wedi ystyried cosbau eraill, ond mai diarddel Ms Rowlands oedd y gosb mwyaf priodol.

Dywedodd Nigel Adkins, o undeb yr NASUWT,a oedd yn cynrychioli Wendy Rowlands, ei fod yn siomedig nad oedd y panel wedi dewis cosb llai.