£2.3m wedi'i godi yng Nghymru i elusen Plant Mewn Angen

  • Cyhoeddwyd
Pudsey

Fe gafodd £2.3m ei godi yng Nghymru ar ddiwrnod Plant Mewn Angen eleni.

Fe wnaeth Swyddog Elusennol Cymru, James Bird ganmol yr holl bobl wnaeth ymdrechu i godi arian wnaeth gyfrannu at y cyfanswm terfynol.

Ar draws y DU codwyd £47.9m, sydd ychydig yn is na'r cyfanswm o £50.6m a godwyd y llynedd.

Roedd y cyfanswm yng Nghymru ychydig yn is eleni hefyd, gyda'r ffigwr y llynedd yn £2.45m.