Cwpan Her yr Alban: Rangers dan 21 2-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Young-CoombsFfynhonnell y llun, SNS
Disgrifiad o’r llun,

Nathan Young-Coombes sgoriodd yr ail gôl i dîm dan 21 Rangers

Mae Wrecsam allan o Gwpan Her yr Alban ar ôl colli oddi cartref i dîm dan 21 Rangers.

Roedd goliau gan Jamie Barjonas a Nathan Young-Coombes yn stadiwm Ibrox yn ddigon i anfon Rangers i'r rownd gynderfynol.

Bydd Wrecsam nawr yn troi ei sylw at daith i Rochdale ar gyfer ail gymal y gêm yng Nghwpan FA Lloegr yn dilyn gêm gyntaf gyfartal.

Mae Wrecsam yn parhau tri safle o waelod y tabl gyda 19 pwynt wedi 20 gêm.