Y Parch. J Towyn Jones wedi marw yn 77 oed

  • Cyhoeddwyd
J.Towyn JonesFfynhonnell y llun, Alun Lenny

Bu farw'r gweinidog, hanesydd, awdur a storïwr, y Parchedig J Towyn Jones yn 77 oed.

Yn Llywydd Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin, roedd yn gyfrannwr cyson ar raglenni Radio Cymru ac S4C yn arbenigo ym maes llen gwerin ac ysbrydion.

Yn enedigol o ardal Capel Iwan, Sir Gaerfyrddin, roedd hefyd yn arlunydd. Fe aeth i Goleg Celf Caerfyrddin, cyn troi at y weinidogaeth yn 1964 a gwasanaethu mewn capeli yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.

Bu'n weinidog mewn sawl capel yn ardal Caerfyrddin rhwng 1974 a 2015.

Ysgrifennodd gyfrolau yn cynnwys 'Ar Lwybr Llofrudd', Gwasg Gomer a 'Rhag Ofn Ysbrydion', Cymdeithas Lyfrau Ceredigion.

Roedd un o'i ymddangosiadau cyhoeddus diwethaf yng Nghanolfan S4C yr Egin, lle bu'n adrodd straeon ysbrydion, noson Galan Gaeaf.