Lucy Owen: Y galar ar ôl colli Dad yn ifanc
- Cyhoeddwyd
Ar Ddiwrnod Galar Plant mae'r gyflwynwraig Lucy Owen yn siarad gyda Cymru Fyw am golli ei thad pan oedd hi'n blentyn. Bu farw Jeffery Cohen ym Mehefin 1987 drwy foddi ar ei wyliau ym Mallorca.
O'n i'n 16 pan gollais i Dad. 'Oedd e i ffwrdd ar wyliau ym Mallorca pan wnaeth e foddi. Ar y dechrau doedden ni ddim yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddo ond deifiodd e mewn i'r dŵr, bwrw ei ben a boddi.
Roedd yn rhyfedd iawn, yn sioc masif. Mae marwolaeth o hyd yn rhyfedd ac yn anodd i gael dy ben rownd ond pan mae'n farwolaeth sydyn, annisgwyl, mae'n anoddach fyth.
Pan ti'n ifanc mae'n anodd iawn i ddeall - ti ddim yn meddwl bod ti'n mynd i golli dy rieni yn ifanc. Ti'n meddwl bod nhw'n mynd i fod 'na o hyd i ofalu amdanat ac i gadw ti'n saff.
So pan ti yn colli nhw mae'n siglo ti.
Y noson ffeindion ni mas fod Dad wedi marw, o'n ni wedi bod am KFC, oedd yn treat mawr. Roedd nodyn ar y drws pan gyrhaeddon ni adref yn dweud fod rhaid ni ffonio'r rhif 'ma urgently. Glywais i Mam ar y ffôn ac 'oedd hi mor ypset.
O'n i'n gwybod fod rhywbeth mawr o'i le. Ac yna dywedodd Mam wrtha'i. Pan ti'n clywed y math 'na o newydd mae'n anodd iawn i brosesu fe, yn enwedig achos fod Dad dramor a doedd ddim unman i fynd. Roedd yn rhyfedd iawn ac o'n i'n teimlo'n removed o'r holl beth.
Oedd hi'n anodd iawn i gael fy mhen rownd y newyddion ac i dderbyn.
Cyfnod o aros
Dw i'n cofio teimlo'n hollol numb a ddim yn gwybod beth i wneud gyda fy hun. Mae'n beth mor rhyfedd i ddelio gyda marwolaeth mor sydyn.
Roedd yr wythnosau cynta' yn blur. Dw i ddim yn cofio pa mor hir oedd e ond roedd wythnosau cyn i gorff Dad ddod adref. Roedd yn broses galaru, eistedd gyda ochr Dad o'r teulu yn aros iddo ddod adref.
Roedd yn rili ofnadwy.
Ac roedd yn ofnadwy i tad-cu fi golli plentyn. Ac i fi golli fy nhad - roedd popeth allan o'r drefn naturiol.
Roedd yn help i gael teulu o gwmpas. Doeddwn i byth yn dda am siarad am sut o'n i'n teimlo. Roedd rhaid byw o ddydd i ddydd a jyst cario ymlaen. Ac yna'n sydyn mae cyfnod hir wedi pasio a dyma yw'ch realiti newydd.
Felly chi'n methu credu bod e'n real ond yn sydyn iawn mae yn real - mae'n rhan o'ch bywyd chi ac mae'n rhan o'r person chi'n dod i fod.
Dechrau derbyn
Mae'r derbyn yn dod gydag amser. Mae dal yn teimlo'n rhyfedd iawn i ddweud fod hyn wedi digwydd i Dad, hyd yn oed degawdau wedyn. Mae'n teimlo fel y math o beth sy'n digwydd i bobl eraill.
Beth sy'n helpu yw cofio'r pethau positif - yr amserau hapus ac hefyd i wybod 'mod i'n blessed ac yn lwcus i'w gael mor hir ag oedd e gyda fi. Dw i'n caru siarad amdano nawr a dw i'n caru clywed straeon amdano. Roedd yn rial cymeriad ac yn lot o hwyl.
Dw i'n caru mod i'n gallu edrych nôl nawr a dathlu fe. Ar y pryd roedd yn anodd iawn i siarad amdano achos pan mae'n sioc mawr dyw pobl ddim yn gwybod sut i ymddwyn gyda ti, dyw pobl ddim yn gwybod beth i ddweud.
Ond peidiwch â'i wneud yn bwnc tabŵ.
Mae pobl yn poeni cymaint am ypsetio ti - ond y mwya' ti'n rhannu'r straeon positif y gore. A'r amseroedd caled wrth gwrs achos dyw e ddim o hyd yn bosib i gofio a chwerthin. Mae bod yn agored a chael ysgwydd i grio arno yn bwysig.
Agor i fyny
Dim ond 16 mlwydd oed o'n i pan gollais i Dad ac roedd Mam yn poeni mod i ddim yn siarad amdano lot felly wnaeth hi anfon fi i weld cwnselydd. Falle mod i'n cau lawr ychydig a ddim yn agor fyny amdano digon.
Roedd yn anodd achos roedd y teulu yn gymhleth - roedd fy rhieni wedi gwahanu pan o'n i'n chwech ac roedd Dad wedi priodi eto. I Mam fe oedd fy nhad i ac roedd hi wedi ei garu unwaith - felly roedd yn anodd iddi hi fel rhywun tu allan i'r teulu agos. Roedd yn anodd i weld hi'n delio gyda hynny.
Mae galar gyda ti am byth - mae'n anodd i ddelio gyda fe a'i roi i un ochr. Gobeithio fydd yr atgofion yn dod yn hapusach a dy fod yn gallu edrych nôl heb ormod o boen.
Yn rhyfedd iawn, pan ddechreuais ysgrifennu straeon i blant, o'n i'n ysgrifennu llyfr a sylweddolais mod i wedi ysgrifennu am ferch oedd yn crio cymaint fod y tŷ'n llenwi gyda dagrau. Roedd hi wedi colli ei rhieni ac roedd y llyfr am nofio yn y môr - 'oedd cymaint o pointers yn dangos o ble y tu fewn fi 'oedd hyn wedi dod.
Degawdau wedyn dyma sut daeth e allan a benderfynais i groesawu e. Roedd yn cathartic i fi - 30 mlynedd yn ddiweddarach a mae'n dal yno tu fewn.
Byw bywyd i'r eithaf
Dw i ddim yn siarad am hyn yn aml, dim ond yn ddiweddar dw i wedi cychwyn siarad amdano'n fwy agored. Mae'n bwysig iawn i siarad am alar, yn enwedig os mae fy mhrofiad i'n gallu helpu rhywun, achos dw i lot ymhellach i lawr y broses galaru.
Ar ôl colli Dad mor ifanc dw i'n gwerthfawrogi'r bobl yn fy mywyd ac yn ffurfio bonds agos gyda pobl. Mae'n adeiladu resillience ac mewn lot o ffyrdd mae'n gwneud fi'n ddiolchgar am y bywyd sy' gyda fi. Cafodd bywyd Dad ei dorri'n fyr ac mae'n gwneud i ti feddwl faint o rodd yw bywyd, rhaid i ni wneud y mwyaf ohono.
Byddai Dad ddim eisiau i fi fod yn crio ac yn ypset bob nos, bydde fe ishe i fi fwynhau bywyd a gwneud y mwyaf ohono, jyst fel wnaeth e.
Roedd Dad arfer chwarae harmonica ac mae fy mab Gabriel yn chwarae harmonica nawr. Ni'n siarad am Dad lot - wnaeth Gabriel ddim cael siawns i gyfarfod ei dad-cu felly mae siarad amdano yn ei gadw e'n fyw.
Roedd Dad yn gyfreithiwr ond roedd yn mwynhau darlledu hefyd. Roedd yn gyfreithiwr ar phone-in ar sioe radio Vincent Kane - o'n i'n caru bod yn y stiwdio ac yn meddwl ei fod yn anhygoel. Cafodd Dad ddim gweld fi'n gwneud unrhyw radio na theledu ond dw i'n meddwl os bydde fe'n edrych lawr bydde fe'n mwynhau beth dw i'n gwneud.
Os ydych chi'n galaru, cofiwch bydd pethau'n mynd yn haws a fydd pethe'n ocê mewn amser. Cofiwch ofyn am help achos mae 'na bobl sy'n gallu'ch helpu chi.
Cadwch eich teulu a'ch ffrindiau yn agos, byddan nhw 'na i chi.
Cyngor gan Child Bereavement UK am alar plant
Byddwch yn onest ac yn barod i ateb cwestiynau'r plentyn - mae'n bwysig i fod yn glir ac i osgoi dweud pethau fel 'wedi mynd i gysgu' ac 'wedi colli'.
Cadwch i gyfathrebu - 'dyw plant ddim o hyd yn gwybod sut i ddisgrifio sut maen nhw'n teimlo felly rhowch gyfleoedd iddynt ddangos sut maen nhw'n teimlo drwy fynd am dro neu creu llyfr atgofion gyda'ch gilydd.
Cadwch i routines arferol - mae rhain yn gallu helpu plentyn i deimlo'n ddiogel ac i deimlo fod rheolaeth gyda nhw dros fywyd.
Hefyd o ddiddordeb