Cynllun i newid barn y cyhoedd am gig eidion Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae'r diwydiant amaeth yn ceisio creu tro pedol, wrth i brosiect newydd fynd ati i drawsnewid barn y cyhoedd am gig eidion.
Mae Beef Q yn rhaglen a gafodd ei datblygu yn Awstralia, a Chymru ydy'r wlad gyntaf yn y DU i dreialu'r system.
Nod y rhaglen yw sicrhau ansawdd darnau o gig eidion, fel bod y brand Cymreig yn cael enw da yn agos at adref, ac ar draws gweddill y byd.
Mewn sesiynau blasu yn Aberystwyth - un mewn cyfres o ddigwyddiadau tebyg - mae'r cyhoedd yn marcio darnau gwahanol o gig eidion er mwyn creu system raddio newydd.
Mae'r prosiect yn cael ei arwain gan Brifysgol Aberystwyth, mewn cydweithrediad â phartneriaid o'r diwydiant cig yng Nghymru.
Fe ddaw mewn cyfnod anodd i'r diwydiant, gyda chostau cynhyrchu ar eu huchaf, a'r pris y mae ffermwyr yn ei gael am y cynnyrch ar ei isaf.
Dywedodd Richard Tudor, sy'n ffermwr ger Aberystwyth, nad yw eisiau troi ei gefn ar gig eidion na chig oen gan fod cyfnodau o ansicrwydd i'r ddau.
"Dwi'n trio cadw'r ddysgl yn wastad - mae hanner yr incwm falle'n dod o'r bîff a hanner o'r cig oen," meddai.
"Eleni mae'r bîff i lawr, felly mae'n dda bod 'da fi'r defaid.
"Falle blwyddyn nesa y bydd hi'n wahanol, felly fi ddim isie rhoi'r wyau i gyd yn un fasged."
Dros y degawd diwethaf, mae gostyngiad o 23,000 wedi bod yn nifer y gwartheg cig eidion yng Nghymru.
Yn yr un cyfnod mae gwartheg godro wedi cynyddu 26,000.
Er y newid yma, mae cynhyrchiant cig eidion wedi cynnal, gydag arbenigwyr o fewn y diwydiant yn awgrymu bod y sector yn fwy effeithlon ac yn gallu cynhyrchu mwy o gig er bod llai o wartheg.
Dywedodd Gareth Evans, sy'n rhedeg rhaglen Beef Q ar ran Celtica, Castell Hywel, mai nod y cynllun ydy adfer hyder y cyhoedd yn y cynnyrch sy'n cael ei greu yma.
"Mae hwn wedi cael ei ddatblygu yn Awstralia tua 20 mlynedd neu fwy yn ôl - oedd ganddyn nhw'r broblem bod llai o bobl yn bwyta cig eidion," meddai.
"Mae gwledydd eraill wedi ei roi mewn lle - Ffrainc, Gwlad Pwyl, Iwerddon - a rŵan 'da ni'r Cymry yn arwain y ffordd yn y wlad yma.
"'Da ni eisiau cael y cyhoedd yn ôl yn hyderus yn bwyta'r hyn 'da ni'n ei gynhyrchu yn y wlad yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2019
- Cyhoeddwyd23 Medi 2019