Poeni ymhlith ffermwyr Môn am brisiau isel cig eidion

  • Cyhoeddwyd
buwch
Disgrifiad o’r llun,

Dywed ffermwyr fod pris cig eidion wedi gostwng yn ystod y flwyddyn

Mae llythyr yn cael ei ddosbarthu arYnys Môn ar hyn o bryd yn galw ar ffermwyr i weithredu oherwydd prisiau isel cig eidion.

Mae yna anniddigrwydd mawr ymhlith llawer bod prisiau wedi gostwng yn ystod y misoedd diwethaf.

Bydd cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Mercher gyda chynrychiolaeth o'r diwydiant cig, Hybu Cig Cymru a swyddogion y llywodraeth i drafod y mater.

Wrth siarad â BBC Cymru dywedodd Eifion Hughes, is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yng ngogledd Cymru: "Mae o'n [pris cig eidion] syrthio yn ei bris wastad... mae o gryn lawer i lawr ar be' oedd o flwyddyn yn ôl.

"Mae 'na bob math o resymau… mae llawer o gig yn dod i mewn ond dwi'n methu dallt bod y pris wedi syrthio gymaint.

"Mae cig yn dod drosodd o Iwerddon ond mae hwnnw wedi bod yn dod ers blynyddoedd… oes na fwy yn dod? Mae'n rhaid bod 'na."

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Eifion Hughes, is-lywydd Undeb Amaethwyr Cymru yng ngogledd Cymru, nad yw'n synnu petai ffermwyr yn gweithredu

Ychwanegodd Mr Hughes bod ffermwyr yn teimlo'n rhwystredig iawn a bod hyn a Brexit yn dod ag ansicrwydd mawr i'r diwydiant amaeth.

Wrth gael ei holi a yw'n rhagweld protestio yn y porthladdoedd fel ag a fu yn y gorffennol, atebodd Eifion Hughes: "Fyddwn ni'n synnu dim - mae llawer yn teimlo'n rhwystredig."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod nifer o resymau yn cyfrannu at brisiau cig eidion - gan gynnwys newid yn y galw, diffyg hyder y cwsmer a threfnu ar gyfer Brexit.

Ychwanegodd y byddai cyfarfod yn cael ei gynnal ddydd Mercher rhwng cynrychiolaeth o'r diwydiant amaeth, Hybu Cig Cymru a'r llywodraeth i drafod y sefyllfa.