Penodi Martyn Williams yn rheolwr tîm rygbi Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd cyn-gapten Cymru, Martyn Williams yn olynu Alan Phillips fel rheolwr y tîm cenedlaethol ym mis Ionawr.
Enillodd y blaenasgellwr 44 oed 100 o gapiau dros ei wlad ac fe deithiodd gyda'r Llewod deirgwaith.
Ers ymddeol yn 2012, mae'n gweithio fel sylwebydd i'r BBC.
Bydd yn rhan o dîm rheoli'r prif hyfforddwr newydd, Wayne Pivac, a olynodd Warren Gatland ar ddiwedd cystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd.
Roedd Phillips yn rheolwr Cymru ers 2001, gan lywio'r tîm trwy dros 220 o gemau prawf a phum cystadleuaeth Cwpan y Byd.
Ag yntau wedi ei benodi'n gyfarwyddwr gweithrediadau'r Llewod, fe fydd yn gyfrifol am drefniadau taith 2021 i Dde Affrica, pan fydd Gatland unwaith eto yn brif hyfforddwr ar y garfan.
Williams yw'r cyn-gapten Cymru diweddaraf i ymuno â'r tîm rheoli dan Pivac.
Mae Sam Warburton wedi ei benodi'n gyfarwyddwr technegol, ac mae Stephen Jones a Jonathan Humphreys ymhlith yr hyfforddwyr cynorthwyol.
Dywedodd Williams, sy'n dechrau ar ei swydd newydd ar 1 Ionawr, ei fod "yn falch eithriadol" o gael ei benodi.
"Mae'n swydd gyffrous ac alla'i ddim disgwyl i gael dechrau," meddai.
"Mae Wayne wedi creu tîm rheoli profiadol... mae gyda ni chwaraewyr ardderchog yma yng Nghymru ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â nhw.
"Mae Alan wedi gwneud job ffantastig fel rheolwr tîm... wnes i fwynhau'r awyrgylch o chwarae pan oedd e yna ac rwy'n dymuno'r gorau iddo yn ei swydd newydd gyda'r Llewod."
Dywedodd Phillips y bydd ei ddiwrnod olaf fel rheolwr tîm Cymru wedi 18 mlynedd "yn emosiynol".
"Rydw i wedi gweithio gyda phobol ragorol... ac rwy'n falch o fod wedi gallu helpu eu cefnogi," meddai.
Ychwanegodd fod y Llewod â "lle arbennig yn fy nghalon" a'i fod "methu aros" i ddechrau'r gwaith paratoi ar gyfer taith 2021 "i gartref y pencampwyr byd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2018