Cwpan Her Ewrop: Enisei 22-49 Dreigiau

  • Cyhoeddwyd
Jordan WilliamsFfynhonnell y llun, Gareth Everett

Llwyddodd y Dreigiau i sicrhau pwynt bonws gyda buddugoliaeth o 22-49 dros Enisei yng Nghwpan Her Ewrop ddydd Gwener.

Sgoriodd Jordan Williams gais gwych cyn gadael y cae gydag anaf, ond fe wnaeth Enisei frwydro'n ôl yn gryf gyda dau gais yn hwyr yn yr hanner cyntaf.

Fe wnaeth Arwel Robson groesi i unioni'r sgôr yn Krasnodar, cyn i Ben Fry, Will Talbot-Davies, Ellis Shipp, Daf Howells a Tyler Morgan groesi i'r Dreigiau yn yr ail hanner.

Jeremy Jordaan, Bjorn Basson a Hendrik Marais sgoriodd i Enisei.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu bod y Dreigiau wedi ennill eu dwy gêm gyntaf yn y gwpan, wedi iddyn nhw guro Castres y penwythnos diwethaf.