Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-3 Yeovil

  • Cyhoeddwyd
WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yna ddigon o goliau i ddiddanu'r dorf ar y Cae Ras ond bu'n rhaid i'r tîm cartref fodloni gyda phwynt wedi gêm gyfartal.

Dywedodd y rheolwr Dean Keates bod ei chwaraewyr wedi amlygu "dygnwch a chymeriad" i daro'n ôl nid unwaith, ond ddwywaith, wedi i'r gwrthwynebwyr sgorio ac yna mynd ar y blaen am gyfnod.

Ond fe fethodd y Dreigiau â mynd gam ymhellach a sgorio pedwaredd gôl mewn ymateb i hat-tric ymosodwr Yeovil, Rhys Murphy.

Daeth gôl gyntaf Murphy wedi cwta dri munud ond 20 munud yn ddiweddarach roedd Akil Wright wedi cysylltu â chroesiad Ben Tollitt i'w gwneud hi'n 1-1.

Roedd Murphy wedi adfer y fantais i Yeovil wedi 39 o funudau ond roedd Wrecsam yn gyfartal unwaith eto ym munud olaf yr hanner cyntaf wedi ergyd Paul Rutherford o 25 llath.

Dwy funud wedi dechrau'r ail hanner roedd Bobby Grant wedi rhoi Wrecsam ar y blaen am y tro cyntaf ond fe rwydodd Murphy wedi 67 o funudau i hawlio hat-tric a phwynt gwerthfawr oddi cartref i'r ymwelwyr.

Mae Wrecsam yn codi un safle i rif 21 yn y tabl.