'Pwynt technegol' yn atal cyfiawnder wedi gwrthdrawiad

  • Cyhoeddwyd
John ar ol deffro o'r comaFfynhonnell y llun, Emma Ross
Disgrifiad o’r llun,

Treuliodd John Conibeer chwe wythnos mewn coma ar ôl cael ei daro gan y fan

Mae dyn fu bron â cholli'i fywyd yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yn dweud nad yw wedi cael cyfiawnder oherwydd "pwynt technegol".

Bu'n rhaid i John Conibeer dreulio chwe wythnos mewn coma a chael sawl llawdriniaeth ar ôl cael ei daro gan fan ar yr A48 ger Cas-gwent y llynedd.

Ond mae'n dweud na chafodd achos ei ddwyn yn erbyn y dyn gafodd ei gyhuddo o'i daro, a hynny oherwydd camgymeriad gweinyddol.

Dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron na fyddai'n briodol gwneud sylw, a dywedodd Heddlu Gwent eu bod wedi "dilyn y broses safonol" wrth ymchwilio i'r achos.

'Amser ar ben'

Ar 17 Chwefror 2018 roedd Mr Conibeer yn teithio mewn car oedd yn cael ei yrru gan ei bartner Emma Ross, pan wnaeth hi golli rheolaeth o'r cerbyd a tharo mewn i wal.

Ni chafodd unrhyw un eu hanafu, ond pan gamodd Mr Conibeer allan o'r car i asesu'r difrod cafodd wedyn ei daro o'r tu ôl gan fan Ford Transit.

Fe dderbyniodd anafiadau difrifol gan gynnwys torri 24 asgwrn, yn ogystal â niwed i'w ysgyfaint, aren, iau, coluddyn a phledren.

Bu'n rhaid iddo gael sawl llawdriniaeth, gan gynnwys cael ei adfer ddwywaith yn ystod yr un cyntaf wnaeth bara 24 awr.

Ffynhonnell y llun, Emma Ross
Disgrifiad o’r llun,

John Conibeer a'i bartner Emma Ross, oedd gydag ef adeg y gwrthdrawiad

Yn dilyn apêl fe gafodd dyn ei arestio ym mis Mawrth, ond chafodd cyhuddiadau mo'u dwyn yn ei erbyn nes mis Medi.

Mae'r BBC yn deall bod y dyn yn wynebu cyfanswm o dri chyhuddiad - achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal, peidio stopio yn dilyn damwain, a methu ag adrodd am ddamwain.

Yn ôl Mr Conibeer, roedd yr heddlu wedi dweud wrtho fod y dyn eisoes wedi cyfaddef mai ef oedd yn gyrru'r fan ar y pryd.

Ond cafodd yr achos ei thynnu yn ôl cyn i'r diffynnydd ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ym mis Tachwedd, a hynny wedi i'r barnwr ddweud bod yr "amser ar ben" ar yr achos.

Gyda rhai troseddau ffordd mae gan erlynwyr gyfnod o chwe mis i gyhuddo rhywun, oni bai bod ganddyn nhw dystysgrif estyniad.

Doedd y dystysgrif honno ddim yn bresennol yn nogfennau'r achos, meddai Ms Ross, na chwaith un o'r cyhuddiadau - gan olygu nad oedd modd parhau â'r achos.

Yn ôl y cwpl mae'r heddlu a'r Gwasanaeth Erlyn wedi "beio ei gilydd", ac maen nhw'n ystyried mynd â'u cwyn ymhellach.

"Dwi wedi colli allan ar gyfiawnder oherwydd pwynt technegol," meddai Mr Conibeer.

Ffynhonnell y llun, Emma Ross
Disgrifiad o’r llun,

Er bod Mr Conibeer yn ymddangos yn holliach, mae'n annhebygol o wella'n llwyr o'i anafiadau

Ychwanegodd Ms Ross bod ei phartner wedi gorfod "datblygu eto" wrth ddilyn y broses hir o wella o'i anafiadau.

"Hoffwn i ei weld e [gyrrwr y fan] yn cyfaddef beth wnaeth e o flaen barnwr, ac wedyn wynebu ni a chlywed sut mae e wedi effeithio fe," meddai.

Er gwaethaf y gofal gwych mae Mr Conibeer yn dweud iddo gael gan staff meddygol, mae'n debygol na fydd ei fywyd yr un peth ag yr oedd cyn yr anafiadau.

"Mae'n gwneud fi'n grac iawn pan mae pobl yn dweud 'ti mor lwcus i fod yn fyw'," meddai.

"Mae rhan ohona i yn gobeithio y bydden i wedi marw'r noson yna achos dwi ddim yn teimlo'n lwcus.

"Dwi wedi brwydro gyda meddyliau am ladd fy hun - roedd poen ym mhob rhan o fy nghorff."

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Erlyn y Goron: "Rydyn ni wedi derbyn cwyn yn ymwneud â'r achos yma. Byddai'n amhriodol gwneud sylw pellach ar yr adeg hon."

Ychwanegodd Heddlu Gwent: "Rydym yn nodi'r dadleuon cyfreithiol a godwyd gan yr amddiffyniad. Byddai'n amhriodol gwneud sylw pellach."