Dyn yn cael ei anafu'n ddifrifol wedi achos taro a ffoi

  • Cyhoeddwyd
Stryd Caer, Yr WyddgrugFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y dyn ei anafu yn ardal Stryd Caer yn gynnar ddydd Sadwrn

Mae dyn wedi cael ei anafu'n ddifrifol yng nghanol Yr Wyddgrug ar ôl cael ei daro gan gar gyrrwr wnaeth wedyn adael heb stopio.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger y mart ar Stryd Caer tua 03:30 fore Sadwrn.

Cafodd y Renault Megane du oedd yn rhan o'r digwyddiad ei adael gan y sawl oedd yn ei yrru yn fuan wedyn, yn ôl Heddlu Gogledd Cymru.

Mae'r dyn lleol 44 oed a gafodd ei anafu wedi cael ei drosglwyddo i ysbyty yn Stoke.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Iolo Edwards o Heddlu'r Gogledd: "Roedd hwn yn ddigwyddiad difrifol ble mae dyn wedi cael anafiadau difrifol, rhai all fod yn newid ei fywyd."

Mae'r llu mewn cysylltiad â theulu'r dioddefwr, ac yn apelio ar unrhyw un all fod â gwybodaeth neu a welodd y digwyddiad i gysylltu â nhw neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod X169592.