Peilot ar goll wedi 'damwain awyren ysgafn' ger Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Hofrennydd yn chwilioFfynhonnell y llun, Heddlu Gogledd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr heddlu fod yr awyren yn teithio o Faes Awyr Caernarfon i'r Gogarth yn Llandudno pan aeth ar goll

Mae'r heddlu wedi cadarnhau bod peilot ar goll yn dilyn "damwain awyren ysgafn" ddigwyddodd ger Ynys Môn ddydd Llun.

Dywedodd yr Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB) fod tîm wedi ei yrru i ymchwilio i'r digwyddiad ger Biwmares.

Daeth y chwilio i ben nos Lun, gydag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau yn dweud y bydd y chwilio'n ailddechrau fore Mawrth.

Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw toc cyn 13:00 i adroddiadau bod awyren fechan wedi dod i lawr yn ardal Penmon.

Cadarnhaodd yr heddlu bod un peilot yn yr awyren, ac nad oedd unrhyw un arall ynddi pan aeth ar goll.

Mae swyddogion yn cefnogi teulu'r peilot, meddai'r heddlu.

Roedd yr awyren yn teithio o Faes Awyr Caernarfon i'r Gogarth yn Llandudno ac yn ôl brynhawn Llun.

Ffynhonnell y llun, flightradar24.com
Disgrifiad o’r llun,

Mae'n ymddangos bod awyren oedd yn teithio o Gaernarfon tuag at Llandudno wedi diflannu o gyswllt radar ddydd Llun

Yn gynharach dywedodd y gwasanaethau brys eu bod yn ymateb i adroddiad o ddamwain ger Ynys Seiriol.

Dywedodd yr RNLI bod badau achub o Fiwmares, Moelfre a Llandudno wedi eu galw i'r digwyddiad, a bod hofrennydd Gwylwyr y Glannau o Gaernarfon yno hefyd.

Dywedodd Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau eu bod wedi ymateb yn dilyn adroddiad bod awyren wedi colli cysylltiad radar.