Gwylwyr y Glannau yn gohirio'r chwilio am awyren coll
- Cyhoeddwyd
Mae Gwylwyr y Glannau wedi dweud eu bod wedi gohirio'r chwilio am awyren ysgafn sydd wedi bod ar goll ger Ynys Môn ers dydd Llun.
Ond dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw, gyda chymorth yr Adran Ymchwilio i Ddamweiniau Awyr (AAIB), yn parhau i chwilio am yr awyren, a'r peilot, oddi ar arfordir Penmon.
Roedd yr awyren yn teithio o Faes Awyr Caernarfon i'r Gogarth yn Llandudno ac yn ôl brynhawn Llun pan gollodd gysylltiad radar.
Yr Athro David Last, 79, sydd wedi ei enwi fel y peilot, gyda'r heddlu'n ychwanegu nad oedd teithwyr eraill ar yr awyren.
Ddydd Mercher, dywedodd Gwylwyr y Glannau y byddan nhw'n dod â'r chwilio i ben tan y bydd mwy o wybodaeth yn dod i law.
Dywedodd y prif arolygydd Essi Ahari o Heddlu Gogledd Cymru bod aelodau o'u tîm chwilio tanddwr yn parhau i chwilio'r safle.
"Mae swyddogion arbenigol o'n tîm chwilio tanddwr ar hyn o bryd yn cynnal chwiliad manwl o'r ardal, ac mae teulu'r Athro Last yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion cyswllt teulu," meddai.
'Testun braw a thristwch'
Roedd yr Athro Last yn dysgu ym Mhrifysgol Bangor ym meysydd morwriaeth a chyfathrebu, ac yn "ffigwr uchel ei barch".
Mewn datganiad ddydd Mawrth, dywedodd ei deulu ei fod yn "beilot profiadol".
"Yn fwy na hynny, roedd yn ben teulu i ni: tad, gŵr, brawd, taid, ewythr a ffrind cariadus, ac rydyn ni i gyd yn torri'n calonnau," meddai'r teulu.
"Hoffem petai'n preifatrwydd yn cael ei barchu ar yr adeg anodd yma."
Mewn datganiad, dywedodd Prifysgol Bangor fod y newyddion am yr Athro Last yn "[d]estun braw a thristwch i staff".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2019