Claf yn creu ap i helpu â thriniaeth canser y fron
- Cyhoeddwyd
Mae claf wedi dylunio ap newydd i helpu pobl sydd â chanser y fron i baratoi am driniaeth radiotherapi.
Mae'r driniaeth yn gofyn iddyn nhw godi eu braich uwch eu pen, ond mae pobl yn aml yn gweld hynny'n anodd, neu'n boenus, yn dilyn llawdriniaeth ar y fron.
Er bod ymarferion yn bwysig, dywedodd Karen Bonham nad oedd taflenni gwybodaeth yn rhoi digon o gymorth.
Felly fe helpodd i greu ap dwyieithog sy'n cynnig fideos o ymarferion corff - ac mae meddygon yn dweud ei fod yn helpu menywod i fod yn barod ar gyfer y driniaeth.
Dywedodd Ms Bonham ei bod hi wedi bod yn "bryderus iawn" am beidio â chael mynediad i radiotherapi ac fe soniodd wrth ei ffisiotherapydd.
"Dyw'r taflenni ymarferion ddim y rhai mwyaf defnyddiol," meddai.
"Rwy' jest wrth fy modd ei bod wedi gwrando... a'n bod wedi gallu cynhyrchu rhywbeth sydd llawer haws i bawb fynd ato."
Yn sgil dyfodiad BAPS App ym mis Chwefror, dywedodd staff yng Nghanolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd eu bod wedi sylwi ar lai o gleifion sydd angen eu cyfeirio ar frys at ffisiotherapydd cyn triniaeth.
Dywedodd Kate Baker, ffisiotherapydd arweiniol clinigol, a helpodd i ddyfeisio'r ap: "Yn y gorffennol rydym wastad wedi dosbarthu gwybodaeth am ymarferion mewn taflen y byddai cleifion yn eu cael gan ffisiotherapydd a'u cludo adref.
"Ond yn aml mae'r darnau hyn o bapur yn mynd ar goll ac nid ydyn nhw'n cael eu defnyddio.
"Yr hyn yr oeddem am ei wneud oedd darparu ymarferion, cyngor ar weithgaredd corfforol a gwybodaeth bellach mewn fformat ap, fyddai'n caniatáu i unigolion ei gael gyda nhw bob amser."
'Anodd delio ag ef'
Dywedodd Donna Egbeare, llawfeddyg y fron ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, oedd hefyd yn ymwneud â datblygu'r ap, fod effaith gallu dechrau radiotherapi ar yr amserlen yn sylweddol.
"Os ydych chi'n cyrraedd pwynt radiotherapi ac yna ni allwch ei gael, yn emosiynol mae hynny'n beth anodd iawn delio ag ef," meddai.
Dywedodd Heather Cootes, radiograffydd yn Felindre: "Os yw claf yn dod atom ni ac mae ganddyn nhw broblemau gyda symud braich... gall hynny achosi problemau ymhellach i lawr y lein oherwydd wrth i amser fynd yn ei flaen, bydd yn ymlacio rhwng y sgan cynllunio a'r driniaeth a gall hynny olygu fod y sefyllfa wedi newid ychydig.
"Felly efallai y bydd angen i ni ail-sganio ac ail-gynllunio'r driniaeth a gall hynny estyn ac oedi pethau i'r cleifion.
"Rydyn ni wedi sylwi bod llawer llai o gleifion angen atgyfeiriad am ffisio, oherwydd maen nhw'n gallu cael eu breichiau i'r safle hwnnw.
"Maen nhw'n llawer mwy parod ac yn llai pryderus pan maen nhw'n dod atom ni i gynllunio."
Mae Ms Bonham, o Radyr, yn dal i dderbyn triniaeth canser ond mae hi'n ôl yn y gwaith.
"Mae'n wych i feddwl bod fy rôl fel claf wedi gallu cynhyrchu rhywbeth fel hyn," meddai.
"Mae'n help garw i adfer eich hyder a synnwyr o reolaeth... oherwydd mae bod yn glaf yn anodd iawn yn emosiynol, felly mae hyn wedi bod yn llesol ofnadwy i fy ngwellhad."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd12 Ebrill 2019