Y Bencampwrieth: Caerdydd 1-0 Stoke

  • Cyhoeddwyd
BacunaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Leandro Bacuna sgoriodd unig gôl y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd

Llwyddodd Caerdydd i drechu Stoke yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth yng ngêm gartref gyntaf Neil Harris fel rheolwr.

Aeth Caerdydd ar y blaen wedi ychydig dros 10 munud, gyda Leandro Bacuna yn rhwydo yn dilyn gwaith da rhyngddo ef a Gary Madine.

Er mai Stoke oedd yn cadw'r meddiant, Lee Tomlin a Bacuna eto i'r tîm cartref ddaeth agosaf at sgorio ail gôl.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Caerdydd yn dringo i'r 10fed safle yn y Bencampwriaeth, bedwar pwynt o safleoedd y gemau ail-gyfle.