Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 0-1 Fylde
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam yn parhau yn safleoedd y cwymp yn y Gynghrair Genedlaethol ar ôl cael eu trechu gan Fylde ar y Cae Ras nos Fawrth.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen wedi hanner awr, gyda Danny Philliskirk yn sgorio gydag ergyd o du allan i'r cwrt cosbi.
Roedd Akil Wright yn credu ei fod wedi llwyddo i unioni'r sgôr wedi awr o chwarae, ond fe benderfynodd y dyfarnwr bod Bobby Grant wedi amharu ar y golwr.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Wrecsam yn disgyn i'r 22ain safle yn y gynghrair - un pwynt yn unig o waelod y tabl.