Y Gynghrair Genedlaethol: Ebbsfleet 2-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Mae Wrecsam wedi gostwng i waelod y Gynghrair Genedlaethol ar ôl colli i Ebbsfleet y tîm oedd ar y gwaelod.
Aeth y tîm cartref ar y blaen ar ôl naw munud ar ôl i ergyd Tomi Adeloye wyro oddi ar James Jennings i gefn y rhwyd.
Daeth Wrecsam yn gyfartal ar ôl gôl gan Kieran Kennedy - ei gôl gyntaf ers dychwelyd i'r clwb ar fenthyg o Port Vale.
Fe fethodd Bobby Grant ac Akil Wright a manteisio ar gyfleoedd da i Wrecsam.
Cafodd eu cosbi am hyn ar ôl 74 munud, gyda Myles Weston yn ergydio i gornel y rhwyd.