Gweilch 13-18 Cheetahs

  • Cyhoeddwyd
Ma'afu Fia of Ospreys crosses the line to score a tryFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Fe wnaeth wythnos anodd i'r Gweilch orffen ar nodyn siomedig gan golli i Cheetahs yng Nghastell-nedd.

Ddydd Llun fe wnaeth y prif hyfforddwr Allen Clarke gyhoeddi ei fod yn gadael y clwb.

Hwn oedd yr wythfed gêm allan o naw i'r Gweilch golli'r tymor hwn.

Golygai'r canlyniad fod y Gweilch un safle o waelod Adran A.

Carl Hogg a Matt Sherratt oedd wrth y llyw ddydd Sadwrn wrth i'r Gweilch chwarae eu gêm gyntaf ar y Gnoll ers 2005.