Cau ysgol wedi marwolaeth annisgwyl cynorthwyydd dosbarth

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Bryn CastellFfynhonnell y llun, Google

Mae ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cau ddydd Llun yn dilyn marwolaeth annisgwyl aelod o staff.

Cafodd cynorthwyydd dosbarth 31 oed oedd yn gweithio yn Ysgol Bryn Castell ei ganfod yn farw yn ei gartref ym Mracla fore Sul.

Dywedodd Heddlu De Cymru y byddai archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ddydd Llun i geisio cadarnhau achos y farwolaeth.

Ar hyn o bryd mae'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un heb ei hesbonio.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr bod aelod o staff yr ysgol wedi marw.

Ychwanegodd: "Mae ein meddyliau gyda theulu'r aelod o staff yn y cyfnod anodd yma."

Ar Twitter, dywedodd pennaeth yr ysgol na fyddai'n agor i ddisgyblion ddydd Llun.

Mae Ysgol Bryn Castell yn cynnig addysg i ddisgyblion rhwng 7-19 oed gydag anghenion dysgu ychwanegol.