Cwpan FA: Clybiau Cymru yn y drydedd rownd

  • Cyhoeddwyd
FA CupFfynhonnell y llun, Getty Images

Daeth yr enwau o'r het ar gyfer trydedd rownd Cwpan FA Lloegr, sef y rownd lle mae clybiau'r Uwch Gynghrair a'r Bencampwriaeth yn ymuno â'r gystadleuaeth.

Caerdydd yw'r unig un o glybiau Cymru fydd yn chwarae ar eu tomen eu hunain. Fe fyddan nhw'n croesawu naill ai Forest Green Rovers neu Carlisle United i Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae'r ddau glwb yn chwarae yn Adran 2 o gynghrair Lloegr, sef yr un gynghrair â Chasnewydd, ond fe fydd yr Alltudion yn wynebu taith anodd i Lundain i herio Millwall o'r Bencampwriaeth.

Bydd Abertawe hefyd yn anelu am brifddinas Lloegr gan y byddan nhw'n teithio i wynebu Queens Park Rangers, sydd hefyd yn y Bencampwriaeth.

Fe fydd y gemau'n cael eu cynnal rhwng 3-6 Ionawr, 2020.