Proffil llawn: Sabrina Fortune
- Cyhoeddwyd
Enillodd y taflwr pwysau, Sabrina Fortune, ei theitl byd cyntaf mewn ffordd ddramatig ym Mhencampwriaeth Para-athletau'r Byd 2019 yn Dubai, gan guro ei phellter gorau blaenorol drwy daflu 13.91m i gipio'r aur oddi ar Anastasiia Mysynyk o Wcrain.
Chwalodd y ferch ifanc 22 oed o Lannau Dyfrdwy ei record bersonol gan ennill medal aur yn y gystadleuaeth F20 gyda'i thafliad olaf o 13.91m.
Roedd hi'n frwydr anhygoel rhwng Anastasiia Mysnyk o'r Wcrain a Fortune yn y rownd derfynol. Dechreuodd yr athletwraig o Gymru gydag ymdrechion o 12.32m a 12.79m, cyn gosod record pencampwriaeth drwy daflu 13.26m a mynd ar y blaen yn y drydedd rownd.
Ymatebodd Mysnyk drwy daflu 13.31m yn rownd pump ac wedyn mynd gam ymhellach ar y blaen yn rownd chwech drwy daflu 13.48m.
Gydag un ymdrech ar ôl, ymatebodd Fortune i'r pwysau drwy daflu 21cm ymhellach nag yr oedd wedi gwneud erioed o'r blaen - gan osod record pencampwriaeth arall a sicrhau'r fedal aur i Brydain.
Cafodd Fortune ei geni gyda dyspracsia ar ei lleferydd, cyflwr sy'n golygu bod cyfathrebu ar lafar yn anodd gan arwain at anabledd dysgu.
Er iddi gael ei choroni'n bencampwraig byd mewn taflu'r pwysau eleni, ei chariad cyntaf oedd y ddisgen. Dechreuodd ymddiddori yn y gamp yn 11 oed gan ei bod hi'n arfer gwylio ei brawd yn taflu'r ddisgen.
Er bod Fortune hefyd wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau taflu'r pwysau ar lefel ieuenctid, teimlai mai yng nghamp y ddisgen oedd ei dyfodol rhyngwladol wrth iddi fynd drwy'r lefelau ieuenctid. Erbyn 2013, roedd y ferch 15 oed bryd hynny yn brif ddetholyn Prydain yn ei dosbarth.
Yn sicr, roedd hi'n elwa'n fawr o'r profiad o hyfforddi gyda Beverly Jones, hithau hefyd o'r gogledd ac yn gyn-athletwraig baralympaidd bedair gwaith a enillodd fedal efydd yn y ddisgen F37 yn Llundain 2012.
Ond erbyn 2014, yn dilyn perfformiad gwefreiddiol a enillodd fedal aur iddi yng Ngemau Ysgol Paralympaidd Brasil, daeth yn glir bod gan Fortune dalent eithriadol yn y gamp taflu'r pwysau.
A hithau bellach yn aelod o dîm hŷn Prydain, cafodd Fortune gystadlu am y tro cyntaf ym Mencampwriaethau Para-athletau y Byd yn 2015 yn Qatar, Doha. Ni lwyddodd i ennill medal o drwch blewyn - er bod dod yn bedwerydd ar ei chynnig cyntaf ar y lefel uchaf un yn gamp anhygoel.
Wrth baratoi ar gyfer Gemau Paralympaidd 2016 yn Rio, yn anffodus boddi wrth ymyl y lan wnaeth Fortune unwaith eto ym Mhencampwriaethau Para-athletau Ewrop yn Grosseto, yr Eidal. Ond drwy ddod yn bedwerydd, sicrhaodd ei lle ar yr awyren i Brasil.
Y tro hwn roedd Fortune yn benderfynol o ennill medal gan daflu record bersonol o 12.94m i ennill medal efydd Paralympaidd, gydag Ewa Durska o Wlad Pwyl yn taflu record byd o 13.94m i ennill y fedal aur a Mysnyk y fedal arian.
Ar ôl gorfoledd Rio, roedd 2017 yn flwyddyn anodd i Fortune. Roedd ei hyder yn isel a gorffennodd yn chweched ym Mhencampwriaethau Para-athletau y Byd yn Llundain.
Ar ôl y siom yn Llundain yn 2017, doedd dim dewis ond ail-ddechrau hyfforddi'n galed. Daeth tro ar fyd yn 2018 wrth iddi ennill ei theitl mawr cyntaf.
Mewn tymor lle taflodd record bersonol o 13.70m, enillodd Fortune fedal aur yng nghystadleuaeth taflu'r pwysau F20 ym Mhencampwriaethau Ewrop Para-athletau y Byd yn Berlin, yr Almaen.
Llwyddodd Fortune i guro Durska, y bencampwraig byd a'r bencampwraig Paralympaidd bresennol, gan ennill medal aur a chwalu'r record pencampwriaeth flaenorol drwy daflu 13.30m.
A hithau nawr yn gwybod ei bod hi'n gallu curo goreuon y byd a bod ei hyder wedi dychwelyd, datblygodd Fortune ymhellach eleni drwy ennill coron y byd yn y rownd derfynol syfrdanol yna yn Dubai.
Dangosodd hefyd ei bod hi'n gallu cadw ei phen dan bwysau pan fo teitlau mawr yn y fantol. Mae Fortune yn benderfynol nawr o geisio ychwanegu teitl Paralympaidd at ei chasgliad o fedalau yn Tokyo 2020.
Un o dargedau eraill Fortune fydd gwella eto ar ei record bersonol, gan geisio taflu dros 14m am y tro cyntaf yn ei gyrfa - ac efallai curo record byd Durska o 14.10m.