Teyrnged i athro dawns oedd 'yn rhy dda i'r byd hwn'
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau mai athro dawns oedd wedi perfformio yn y West End yn Llundain fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A55 yn Sir Y Fflint nos Sul.
Roedd James Joseph Agar-Leigh yn 36 oed ac yn dod o ardal y Rhyl.
Bu'n rhaid ei dorri'n rhydd o'i gar gan ddiffoddwyr tân rhwng cyffyrdd 33 a 33A o'r A55 yn ardal Llaneurgain a'i hedfan i'r ysbyty, ble bu farw o'i anafiadau.
Dywedodd ei ŵr, Christopher Agar-Leigh: "Fo oedd fy mywyd a fy myd ac mae fy nghalon yn torri fwy na allwch chi byth ddychmygu.
"Rwy'n dy garu di gymaint mae fy nghalon wedi torri ac mae'n brifo gymaint.
"Ti oedd y peth gorau i ddigwydd i mi yn fy mywyd ac mi fyddai'n dy garu fwy na dim byd arall yn y byd am byth."
Dywedodd ei rieni, Jim a Colette Leigh na fydd bywyd yn un peth heb eu plentyn cyntaf - dyn "mor garedig a chariadus tuag at bawb" oedd wedi dod â "llawenydd i'n bywydau ni i gyd".
"Fo oedd y mab mwyaf annwyl a chariadus y gallai unrhyw un fod wedi gobeithio ei gael ac rydym mor ddiolchgar ein bod wedi ei gael yn fab i ni am 36 mlynedd."
Roedd Mr Agar-Leigh "yn rhy dda i'r byd hwn" yn ôl datganiad ar ran ei frawd, Aaron a'i chwiorydd, Tanya, Natasha a Tara.
Ychwanegodd eu datganiad: "Roedd yn arbenigwr fel coreograffydd ac wedi perfformio yn y West End. Dysgodd ddawnswyr sydd wedi ennill cystadlaethau dawnsio Prydeinig ac roedd yn uchel ei barch yn y maes.
"Mae ein bywydau wedi eu dinistrio hebddo."
Parhau mae ymchwiliad yr heddlu i'r gwrthdrawiad un cerbyd Vauxhall Vectra tua 19:00 nos Sul oedd yn teithio i gyfeiriad y gorllewin.
Gan gydymdeimlo â theulu a ffrindiau Mr Agar-Leigh, dywedodd y Rhingyll Raymond Williams o'r Uned Plismona Ffyrdd: "Rydym yn parhau i apelio am dystion ac rydym yn awyddus i gysylltu ag unrhyw un a fu'n teithio ar hyd yr A55 ac sydd â thystiolaeth ar gamera cerbyd."
Dylai pobl ffonio'r heddlu ar 101, a X173638 yw'r cyfeirnod ar gyfer unrhyw un sydd â gwybodaeth allai helpu'r ymchwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2019