Proffil llawn: Alun Wyn Jones
- Cyhoeddwyd
Dechreuodd Alun Wyn Jones 2019 drwy arwain tîm rygbi Cymru yn llwyddiannus i Gamp Lawn, ac fe'i enwyd yn chwaraewr y gystadleuaeth.
I orffen y flwyddyn bu'r chwaraewr ail reng yn gapten ar Gymru mewn ymgyrch wefreiddiol yng Nghwpan y Byd yn Japan, gan golli o drwch blewyn, 16-19, yn y rownd gyn-derfynol i'r pencampwyr maes o law, De Affrica. Gwadodd hynny ddiweddglo teilwng i Jones yn yr hyn oedd bron yn sicr yn ymgyrch Cwpan Byd olaf i'r chwaraewr 34 oed.
Jones wnaeth daclo fwyaf o weithiau yng Nghwpan y Byd, gyda 79 tacl, wrth i Gymru orffen yn bedwerydd ar ôl colli i Seland Newydd yn y gêm am y fedal efydd. Cafodd chwaraewr y Gweilch ei enwi ar restr fer o chwech am deitl Chwaraewr Rygbi Byd y Flwyddyn.
Roedd eleni yn flwyddyn o gerrig milltir i Jones, wrth iddo helpu Cymru i ennill 14 gêm yn olynol, dod i'r brig fel y tîm ar y safle uchaf ar draws y byd am y tro cyntaf, a gosod record bersonol newydd am nifer ei ymddangosiadau mewn gemau.
Enillodd Jones fwy o gapiau dros ei wlad na'r un chwaraewr arall wrth chwarae yng ngêm Grŵp D yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Bydd, gan ddathlu 130 ymddangosiad dros Gymru gyda buddugoliaeth o 29-15 yn erbyn y Wallabies, 13 blynedd ar ôl ei ymddangosiad cyntaf.
Yn ei gêm olaf yn y gystadleuaeth yn erbyn y Crysau Duon, enillodd gap rhif 134 dros ei wlad, ac roedd hynny ynghyd â'i naw gêm brawf i'r Llewod yn ddigon iddo ragori ar record Sergio Parisse o'r Eidal a symud i'r ail safle ar restr capiau chwaraewyr ar draws y byd erioed, gyda chyfanswm o 143.
Dim ond Richie McCaw, a arweiniodd Seland Newydd i lwyddiant yng Nghwpan y Byd yn 2011 a 2015, sydd â mwy o gapiau i'w enw gyda 148 a gallai Jones ddod yn gyfartal â hynny yng ngemau'r Chwe Gwlad yn 2020.
Mae Jones ar restr fer rhwydwaith y BBC am Bersonoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn 2019 drwy'r Deyrnas Unedig.
Ac yntau wedi dysgu ei rygbi yn Ysgol Bishop Gore, Coleg Llanymddyfri a Chlwb Rygbi Bonymaen, bu Jones yn chwarae i Glwb Rygbi Abertawe tra oedd yn Academi'r Gweilch.
Fe'i henwyd yn gapten y Gweilch am dymor 2010/11 ac arweiniodd y tîm tan ddiwedd ymgyrch 2017/18. Yn ystod y cyfnod hwn fe enillon nhw Gwpan Eingl-Gymreig 2008 a theitl Pro12 2012. Jones sy'n dal y record am y mwyaf o ymddangosiadau i'r Gweilch (238).
Fe gynrychiolodd Jones Gymru Dan 18 a Than 21 a chwaraeodd ei gêm gyntaf i'r prif dîm fel blaenasgellwr yn erbyn yr Ariannin yn Puerto Madryn ym mis Mehefin 2006, gan gadw ei le ar gyfer yr ail Brawf yn erbyn y Pumas yr wythnos ganlynol.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf yn y Chwe Gwlad y mis Chwefror dilynol yn erbyn Iwerddon, wedi'i ddewis yn yr ail reng yn y safle lle byddai'n sefydlu'i hun fel un o fawrion y gêm.
Roedd Jones yn rhan o'r tîm a enillodd y Gamp Lawn i Gymru yn 2008 a'r flwyddyn ddilynol daeth yn gapten rhif 129 ar Gymru pan arweiniodd y tîm yn erbyn yr Eidal ym mhencampwriaeth Chwe Gwlad 2009. O dan ei arweinyddiaeth enillodd Cymru Gamp Lawn arall yn 2012, teitl y Chwe Gwlad yn 2013 ac yna'r Gamp Lawn eleni.
Ar ôl profi ei safon gyda Chymru, nid oedd yn syndod i Syr Ian McGeechan ddewis Jones ar gyfer taith y Llewod i Dde Affrica yn 2009. Yno, ymddangosodd ym mhob un o'r tri Phrawf yn erbyn y Springboks.
Cafodd Jones ei ddewis eto yn 2013 - a'r tîm bryd hynny yn cael ei hyfforddi gan reolwr Cymru, Warren Gatland, - wrth i'r Llewod guro Awstralia 2-1. Fe'i penodwyd yn gapten ar gyfer y trydydd Prawf tyngedfennol ar ôl i'w gyd-Gymro, Sam Warbuton, gael anaf wrth i'r ymwelwyr golli'r ail Brawf yn Melbourne, ac arweiniodd ei dîm i fuddugoliaeth o 41-16 yn Sydney i ennill cyfres am y tro cyntaf mewn 16 mlynedd.
Roedd y clo yn bresennol ym mhob un o'r gemau Prawf ar y daith wefreiddiol i Seland Newydd yn 2017, a Jones oedd y chwaraewr cyntaf yn yr oes broffesiynol i chwarae mewn naw gêm Brawf olynol i'r Llewod.
Torrodd dir newydd eto ym mis Mehefin eleni pan roddwyd rhyddfraint anrhydeddus ei ddinas enedigol, Abertawe, iddo - y person cyntaf i gael yr anrhydedd hon wrth i'r ddinas ddathlu 50 mlynedd.
A Gatland bellach wedi ildio'r awenau fel hyfforddwr Cymru ar ôl 12 mlynedd wrth y llyw, bydd ei olynydd, Wayne Pivac, yn falch o gael chwaraewr o safon Jones i droi ato ar ddechrau ei deyrnasiad.