Proffil llawn: Jade Jones

  • Cyhoeddwyd
Jade JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Jade Jones

Enillodd Jade Jones deitl byd cyntaf ei gyrfa gyda medal aur ym Mhencampwriaethau Taekwondo'r Byd ym Manceinion ym mis Mai.

Roedd buddugoliaeth 14-7 dros y pencampwr blaenorol Lee Ah-reum hyd yn oed yn felysach i Jones gan ei bod wedi colli i'w gwrthwynebydd -57kg o Dde Corea yn rownd gyn-derfynol Pencampwriaethau diwethaf y Byd yn 2017.

Roedd Jones wedi ennill medalau aur yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 a Rio 2016, yn ogystal â medalau aur Ewropeaidd, Gemau Olympaidd Ieuenctid a Grand Prix, ond bu teitl byd yn anodd ei gael - ei gorau cyn hyn oedd medal arian yn ei Phencampwriaethau cyntaf yn 2011.

Rheolodd y ferch 26 oed o'r Fflint y rownd derfynol o'r cychwyn cyntaf ym Manceinion, gan ymestyn mantais o ddau bwynt dros Lee ar ddiwedd y rownd gyntaf i saith pwynt ar 10-3 erbyn diwedd yr ail.

Ymladdodd Lee yn ôl yn gryf yn y rownd derfynol i ddod o fewn tri phwynt i Jones, ond ailgydiodd Jade yn y frwydr a hi wnaeth ennill.

Yn ogystal â'i llwyddiant ym Mhencampwriaethau'r Byd, cipiodd Jones fedal aur hefyd ym Mhencampwriaeth Agored Sofia a medal arian ym Mhencampwriaeth Agored Gwlad Belg.

Cafodd Jones ei chyflwyno i taekwondo gan ei thaid, Martin Foulkes, pan oedd hi'n wyth a pharhaodd ef i gefnogi'r ferch ifanc drwy ei hymrwymiadau hyfforddi a thwrnameintiau wrth iddi ddatblygu.

Hawliodd sylw ar y llwyfan rhyngwladol yn 2010 drwy ennill y fedal efydd ym Mhencampwriaethau Iau'r Byd ym Mecsico ac yna hawliodd yr aur yn y Gemau Olympaidd Ieuenctid cyntaf yn Singapore.

Roedd Jones hefyd yn cystadlu eisoes ar y lefel hŷn ac enillodd yr efydd yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd y flwyddyn honno yn Rwsia.

Cafodd ei llwyddiannau eu cydnabod yn seremoni Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru lle cafodd hi wobr Chwaraewraig Iau y Flwyddyn Carwyn James.

Yn 2011 enillodd Jones ei theitl hŷn cyntaf, sef teitl -62kg Agored yr Unol Daleithiau, ac enillodd y fedal efydd hefyd yn y categori -57kg. Wedyn, cafodd fedal arian -57kg ym Mhencampwriaethau Agored yr Almaen yn Hamburg.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jade Jones yn targedu trydedd medal aur yn Tokyo 2020

Roedd Jones yn brasgamu i fyny'r rhengoedd hŷn a chafodd hynny ei gadarnhau ym mis Mai wrth i'r ferch ifanc o'r Fflint ennill medal arian ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Gyeongju, De Corea.

Yna, yn 2012, cyrhaeddodd Jones binacl ei champ yng Ngemau Olympaidd Llundain, wrth iddi drechu'r prif ddetholyn, Tseng Li-Cheng o Chinese Taipei, yn y rownd gyn-derfynol cyn cael ei choroni'n bengampwr, gan guro Yuzhuo Hou o China 6-4 yn y rownd derfynol i ennill teitl -57kg y menywod.

Buddugoliaeth Jones oedd medal aur gyntaf Prydain yn y gamp - a gyflwynwyd i'r Gemau Olympaidd yn 2000 - ac roedd yn talu'r pwyth yn ôl am golli i'r ymladdwraig o China yn rownd derfynol Pencampwriaethau'r Byd 2011.

Yn 2014, enillodd Jones deitl Grand Prix y Byd drwy guro rhif un y byd, Eva Calvo Gomez o Sbaen.

Y flwyddyn ddilynol cafodd ei siomi ym Mhencampwriaethau'r Byd 2015 pan gafodd ei threchu yn y rownd go-gyn-derfynol mewn amgylchiadau dadleuol pan rewodd y system sgorio electronig.

Ond daeth yn ôl yn gryfach i ennill medal aur i Brydain yn y Gemau Ewropeaidd cyntaf yn Baku, Azerbaijan, drwy guro Ana Zaninovic o Groatia 12-9. Dechreuodd 2016 gydag anaf pen-glin yn poeni Jones, ond profodd ei ffitrwydd drwy ennill Pencampwriaeth Agored yr Almaen yn Hamburg ym mis Ebrill ac yna'r Pencampwriaethau Ewropeaidd yn Montreux, y Swistir, y mis dilynol.

Yn hyderus yn ei chyflwr a'i ffitrwydd, aeth Jones allan i Rio 2016 ac ennill rownd derfynol wefreiddiol gydag awdurdod o 16-7 yn erbyn Gomez - hi oedd fenyw gyntaf erioed o Gymru i amddiffyn teitl Olympaidd.

Ychwanegodd Jones ddau deitl pellach y flwyddyn ganlynol yn Grand Prix Llundain 2017 a Rownd Derfynol y Grand Prix yn Abidjan, y Traeth Ifori, ond roedd teitl byd yn dal y tu hwnt i'w chyrraedd a bu'n rhaid iddi fodloni ar fedal efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Muju, De Corea.

Amddiffynnodd ei theitl Ewropeaidd yng Ngemau 2018 yn Kazan, Rwsia, a bu'n fuddugol hefyd yn y digwyddiadau Grand Prix a gynhaliwyd gartref ym Manceinion ac yn Rhufain, yr Eidal.

A hithau bellach wedi ychwanegu teitl byd yn 2019, mae golygon Jones rŵan ar gadw ei choron yn Tokyo 2020 - nid oes unrhyw fenyw o Brydain erioed wedi ennill tri theitl Olympaidd yn olynol.