Proffil llawn: Hannah Mills
- Cyhoeddwyd
Enillodd Hannah Mills, ynghyd â'i phartner hwylio Eilidh McIntyre, fedal aur ym Mhencampwriaethau Byd Dosbarth 470 yn Enoshima, Japan, ym mis Awst.
Curodd y ddwy y ffefrynnau lleol, Ai Kondo Yoshida a Miho Yoshioka, pencampwyr 2018, o dri phwynt yn unig mewn brwydr gyffrous am y medalau ar yr un llain o ddŵr ag a fydd yn cynnal regata Olympaidd Tokyo 2020.
Mewn cystadleuaeth a gafodd ei llesteirio ar y dechrau gan ddiffyg gwynt, roedd Mills, 31, a McIntyre, 24, ar y blaen erbyn hanner ffordd drwy'r Pencampwriaethau wythnos o hyd, gyda'r pâr o Japan a'r cystadleuwyr o Ffrainc, Camille Lecointre ac Aloise Retornaz, yn dynn ar eu sodlau.
Cychwynnodd y pâr o Brydain ras fedalau pwyntiau dwbl y diwrnod olaf un pwynt ar y blaen, ond ar un adeg roeddent wedi disgyn i'r cefn ac roedd angen eu holl sgiliau arnynt i ddod yn ôl drwy'r cychod eraill a chroesi'r llinell yn seithfed - canlyniad a seliodd y fuddugoliaeth iddynt drwyddi draw.
11 diwrnod yn ddiweddarach daeth Mills a McIntyre yn ail yn y gystadleuaeth brawf Olympaidd yn Harbwr Cychod Enoshima, gyda Retornaz a Lecointre yn eu curo i ennill y tro hwn.
Roedd y pâr o Brydain wedi llywio i fuddugoliaeth yn y dosbarth 470 yn gynharach yn y flwyddyn drwy ennill regata Gwobr y Dywysoges Sofia ym Mallorca, Sbaen, ym mis Ebrill, cyn cael medal arian yn y Pencampwriaethau Ewropeaidd y mis dilynol yn Sanremo, yr Eidal.
Cawsant fedal arian hefyd yn rownd derfynol Cyfres Cwpan y Byd ym Marseille, Ffrainc.
Roedd Mills, a aned yng Nghaerdydd, yn brysur hefyd oddi ar y dŵr, yn lansio cynllun - Big Plastic Pledge - i gael gwared ar plastig untro mewn chwaraeon, ar ôl cael ei syfrdanu gan y swmp arswydus o wastraff a welodd yng Ngemau Olympaidd Rio 2016, lle'r enillodd fedal aur gyda'r phartner blaenorol, Saskia Clark.
Syrthiodd Mills, a aned yng Nghaerdydd, mewn cariad â hwylio pan oedd yn wyth oed ac ymhen dim ond dwy flynedd roedd yn hyfforddi gyda Chymru. Daeth bri rhyngwladol yn fuan wedi hynny, pan ddaeth yn bencampwr Ewropeaidd iau mewn dau ddosbarth.
Roedd wedi ennill pob teitl domestig iau erbyn cyrraedd 14 oed, fe'i henwyd yn Hwyliwr Ifanc y Flwyddyn y Deyrnas Unedig ac enillodd Wobr Carwyn James am lwyddiant eithriadol yn y categori iau yng nghystadleuaeth Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn BBC Cymru 2002.
Agorodd drws wrth i'r pencampwr Olympaidd dwbl Sarah Ayton ymddeol yn Chwefror 2011, gan adael i Clark benderfynu ar bartner i gymryd y llyw yn y dosbarth 470.
Roedd y pâr newydd yn bwrw ymlaen yn eithriadol o dda gyda'i gilydd ac fe enillon nhw fedal arian ym Mhencampwriaethau'r Byd 2011 yn Perth, Awstralia, cyn gwella ar hynny i hawlio'r fedal aur ym Mhencampwriaethau'r Byd y flwyddyn olynol yn Barcelona, Sbaen.
Golygai hynny fod Mills a Clark yn mynd i Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn llawn hyder ac fe enillon nhw fedal arian ar y dyfroedd o amgylch Weymouth.
Yn 2014 wedyn cawsant fedal efydd ym Mhencampwriaeth y Byd yn Santander, Sbaen, a medal arian byd yn 2015 yn Haifa, Israel, cyn i Mills a Clark ei throi hi am Frasil ar gyfer Gemau Olympaidd 2016.
Rhoddodd y pâr o Brydain bwysau ar eu gwrthwynebwyr o'r cychwyn ac roedd ganddynt 20 pwynt o fantais wrth fynd i ras y medalau yn Rio ar ôl ennill deirgwaith a pheidio â gorffen yn is nag wythfed o gwbl yn y 10 ras. Golygai hynny mai dim ond gorffen y ras olaf roedd rhaid iddynt ei wneud i ennill y fedal aur.
Cyhoeddodd Clark ei bod yn ymddeol ar ôl Rio tra bu Mills yn ystyried sawl her newydd, ond cafodd sawl cyfergyd, "gwaedlif bach ar yr ymennydd" a gastrosgopi yn ystod 12 mis anodd ar ôl ei gorchest yn y Gemau Olympaidd.
Newidiodd am ychydig i ddosbarthiadau dingi i rasio yn y categori 49er FX yn 2017 ond trodd yn ôl at y dosbarth 470 i rasio gyda McIntyre.
Mae eu partneriaeth wedi blaguro ers iddynt ddechrau hwylio'n rheolaidd gyda'i gilydd, gan ennill rownd derfynol Cyfres Cwpan y Byd yn Santander, Sbaen, yn eu cystadleuaeth gyntaf gyda'i gilydd, ac yna fedal arian ym Mhencampwriaethau'r Byd 470 2017 yn Thessaloniki, Groeg.
Ym mis Awst 2018 enillodd Mills a McIntyre fedal efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Aarhus, Denmarc, ac ar ôl hawlio teitl y byd eleni mae'r pâr o Brydain wedi profi eu bod yn gymaint o rym i'w orchfygu ag a oedd Mills gyda'i chyn bartner Clark.
Byddai medal aur yn Tokyo 2020 yn cadarnhau lle Mills fel hwyliwr Olympaidd benyw mwyaf llwyddiannus y byd a byddai hefyd yn parhau â gwaddol y teulu McIntyre yn y Gemau Olympaidd, gan fod tad Eilidh, Mike, wedi ennill medal aur yn Seoul yn 1988 yn y dosbarth Star.