Marwolaethau cocên ar gynnydd: 'O'n i jest methu stopio'

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Llinos Môn Owen bod cocên wedi "chwalu bob dim" yn ei bywyd

Fe wnaeth pedair gwaith yn fwy o bobl farw o ganlyniad i wenwyn cocên yng Nghymru y llynedd o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl.

Bu farw 31 o bobl yng Nghymru yn uniongyrchol oherwydd y cyffur y llynedd, o'i gymharu â saith yn 2014.

Yn 2017-18 roedd cocên yn gyfrifol am 560 ymweliad ysbyty, ble mai 272 oedd y ffigwr bum mlynedd yn ôl.

Mewn cwest ddiwedd Tachwedd dywedodd crwner y gogledd, Dewi Pritchard Jones ei fod yn gofidio ar ôl gweld cynnydd mewn marwolaethau lle mae cocên yn ffactor.

Stori Llinos

Mewn cyfweliad â rhaglen Newyddion 9 mae un cyn-ddefnyddiwr wedi rhybuddio am yr effaith enbyd gall cocên ei gael ar fywydau defnyddwyr.

Mae Llinos Môn Owen, 32 o Ynys Môn, yn dweud iddi golli mwy na degawd o'i bywyd i gocên wedi iddi gymryd y cyffur gyntaf yn 18 oed.

Ar ei gwaethaf mae'n dweud iddi wario mwy na £1,000 y mis ar y cyffur dosbarth A.

Byddai'n mynd heb fwyd ac yn methu talu ei rhent er mwyn bwydo ei dibyniaeth.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw 31 o bobl yng Nghymru yn uniongyrchol oherwydd cocên y llynedd

"Dwi'n cofio pan o'n i'n 18, dyma fi'n trio fo am y tro cyntaf a waw - o'n i'n blown away. O'n i fatha, mae'r stwff yma'n amazing! Mae o fatha magic potion," meddai.

Ond fe drodd y pleser yn boen yn fuan iawn wrth iddi syrthio i fywyd yn dibynnu ar y cyffur. Fe gollodd ei swydd a chreu bwlch rhyngddi a'i theulu a'i ffrindiau.

"Fel aeth y blynyddoedd ymlaen ac wrth fynd i gymryd y cocên cryf ofnadwy, o'n i jest methu stopio," meddai.

"O'n i'n byw ar animal level- yr unig beth o'n i'n bothered amdan oedd iwsho cocên.

"Do'dd gen i ddim byd yn y ffrij ond do'dd hynna ddim ots achos priority fi odd cymryd cymaint o gocên ag oeddwn i'n gallu."

'Mwy a mwy'

Uned docsicoleg Ysbyty Gwynedd sy'n gwneud profion ar gyrff marw ac yn paratoi adroddiadau ar gyfer y crwner.

Yn ôl pennaeth yr uned, Avril Wayte, er nad ydyn nhw'n gallu dweud yn sicr ymhob achos mai cocên sydd wedi achosi marwolaeth, maen nhw wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y cyrff sydd ag olion cocên.

"'Da ni'n ffeindio mwy a mwy o gocên pan 'da ni'n gwneud post mortem dros y blynyddoedd diwethaf," meddai.

"Yn y 90au doedden ni ddim yn ffeindio dim byd llawer o gwbl, ond yn chwe mis cyntaf y flwyddyn yma 'da ni wedi ffeindio cocên mewn 20 post mortem."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Avril Wayte bod ei hadran wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y cyrff sydd ag olion cocên

Mae Llinos wedi llwyddo i droi cornel, ac ers dwy flynedd mae'n mynychu sesiynau adferiad ym Mangor.

Mae'n dweud bod cymuned glos yma sy'n rhoi cymorth iddi wrth iddi afael a'i bywyd newydd.

Mae hi nawr yn pwysleisio y gall cocên - sy'n aml yn cael ei weld fel cyffur 'parti' diniwed - fod yn ddinistriol.

"Gath cocên effaith fawr ar fy mywyd i, ond dim jest fy mywyd i," meddai.

"'Di addiction ddim jest yn effeithio ar y person - mae'n effeithio ar deulu a phawb o gwmpas y person yna. Nes i golli gwaith, colli sanity fi, nes i bron iawn golli fy nheulu.

"Doedden nhw ddim yn gwybod beth i 'neud efo fi dim mwy. Mae'r effeithiau'n massive."

Mae cymorth a chyngor os ydych chi yn gaeth i gyffuriau ar gael trwy wefan BBC Action Line.