Arweinydd newydd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Llafur Cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, wedi cael ei benodi'n bennaeth newydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC).
Bydd Mr Morgan yn olynu cyn-arweinydd Cyngor Casnewydd, Debbie Wilcox, sydd bellach yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi.
Dywedodd Mr Morgan bod cael ei ethol i'w rôl newydd yn anrhydedd fawr, ac addawodd i "barhau i gefnogi achos llywodraethau lleol".
Fe fydd hefyd yn parhau i fod yn llefarydd ar gyfer trafnidiaeth, yr amgylchedd a chynaliadwyedd i CLlLC.
Dywedodd Mr Morgan: "Mae'r degawd diwethaf wedi bod yn heriol i lywodraethau lleol, ond mae cynghorau wedi dangos arweinyddiaeth ac wedi gweithio i sicrhau bod ein cymunedau lleol yn cael eu gwasanaethu'n dda a bod gwasanaethau lleol hanfodol yn parhau i gael eu gweithredu."
Talodd deyrnged i'w ragflaenydd, y Farwnes Wilcox, wrth ychwanegu: "Mae Debbie wedi bod yn gefnogwr o lywodraeth leol yn ystod ei arweinyddiaeth o CLlLC ac, fel arweinydd CLlLC, dwi'n bwriadu parhau i gefnogi achos llywodraeth leol, a sicrhau bod ei lais casgliadol yn cael ei glywed gan y llywodraeth."
Ychwanegodd ei fod am "barhau i godi proffil y gwaith hollbwysig mae'r cynghorau'n gwneud ar ran eu cymunedau".
Cafodd y Farwnes Wilcox ei hurddo yn ystod anrhydeddau ymddeol Theresa May, ar ôl i Mrs May ymddiswyddo fel Prif Weinidog yn yr haf.
Roedd wedi cael ei henwebu gan arweinydd y blaid Lafur, Jeremy Corbyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2019