Rhybudd i dacsis didrwydded yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Sir Penfro a Heddlu Dyfed Powys wedi cael gwybod am dacsis anghyfreithlon yn gweithredu yn y sir - yn bennaf, gyrwyr ifanc yn cynnig "lifft" ar y cyfryngau cymdeithasol.
Dros yr wythnosau nesaf, fe fydd Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Dyfed Powys yn targedu unigolion sydd dan amheuaeth o weithredu fel gyrwyr tacsis anghyfreithlon a rhoi lifft i eraill.
Os ydy rhywun yn cynnig lifft am dâl, mae'n debygol na fydd ganddyn nhw yswiriant priodol, a pe byddan nhw'n cael eu dal fe allan nhw wynebu dirwy neu waharddiad rhag gyrru.
Mae gyrwyr tacsis cyfreithlon yn cael eu gwirio er mwyn sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn addas i gludo aelodau o'r cyhoedd, ond dydy'r gwiriadau hyn ddim yn cael eu cynnal ar yrwyr didrwydded.
'Canlyniadau enbyd'
Mae'r Cynghorydd Phil Baker, yr aelod cabinet dros drwyddedu, wedi mynegi pryder ynghylch llwyfannau cyfryngau cymdeithasol yn cael eu defnyddio i gynnig "lifft rhad".
"Byddwn yn annog pawb i beidio â derbyn y cynigion hyn, ni waeth pa mor ddeniadol y mae'r pris yn ymddangos," meddai.
"Gallech fod yn cyfaddawdu ar eich diogelwch, a gallai'r canlyniadau fod yn enbyd."
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Heddlu Dyfed Powys a Chyngor Sir Penfro na fyddan nhw'n oedi cyn cymryd camau gorfodi yn erbyn unrhyw unigolyn sy'n cael ei ddal yn gweithredu fel gyrrwr tacsi didrwydded.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Awst 2019
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2018