Cynghorau 'ddim yn deall anghenion cudd' plant awtistig

  • Cyhoeddwyd
llythyr i rieni
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd llythyr ei anfon i rieni yn eu hysbysu o'r newidiadau

Mae elusen wedi rhybuddio bod awdurdodau lleol yn methu â deall anghenion cudd pobl awtistig na'r heriau maen nhw'n wynebu wrth deithio.

Daw beirniadaeth Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru wrth i rieni yng Ngheredigion wrthwynebu newidiadau i ddarpariaeth tacsis y sir.

Mae rhai rhieni yn teimlo bod lles y plant wedi ei ddiystyru, a hynny wedi i gwmni newydd gael ei benodi i'w cludo i'r ysgol.

Yn ôl Cyngor Ceredigion, mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio â'r gyfraith wrth ddarparu gwasanaethau fel trafnidiaeth.

'Llais ein plant ni'

Mae Sian Rees-Evans wedi penderfynu peidio â gyrru ei merch Angharad, sydd yn awtistig, ar y gwasanaeth tacsis ar ôl y Nadolig.

Dywedodd bod angen gwell ystyriaeth o anghenion plant awtistig, gan fod newidiadau i bethau fel y cerbydau sy'n eu cludo a'r bobl sy'n eu tywys yn gallu cael effaith arnynt.

"Ni'n teimlo'n grac, ac yn flin am y ffaith bod Ceredigion wedi gwneud y penderfyniad heb edrych yn drylwyr ar y ffaith bod y plant yma ag anghenion," meddai.

"Allwch chi byth esbonio i Angharad bod rhywun diarth yn mynd i fod yn edrych ar ei hôl hi ym mis Ionawr.

Ffynhonnell y llun, Google

"Ni fel teulu wedi penderfynu peidio ei gyrru hi ar y tacsi newydd ym mis Ionawr. Dwi'n mynd i fod yn mynd a hi nôl a 'mlaen fel oeddwn i'n gwneud o'r blaen.

"Ni yw llais ein plant ni, maen nhw'n ddi-iaith. Dy'n nhw methu esbonio i ni os oes 'na broblem neu os oes rhywbeth yn eu poeni nhw.

"Ni'n deall bod rhaid gwneud proses dendro, ond dwi o'r farn bod lles ein plant ni wedi ei ddiystyru.

"Dydyn nhw heb ystyried bod plant awtistig yn hoff o routine dyddiol ar ddilyniant hollbwysig sydd i'r gwasanaeth ni'n ei gael ar hyn o bryd."

Pryderon diddiwedd

Dywedodd Samuel Stone, Swyddog Materion Allanol Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol Cymru, fod angen i gynghorau "ddeall anghenion cudd pobl awtistig a'r heriau maen nhw'n eu hwynebu wrth deithio".

"Nid yw llawer o'r anghenion hyn yn amlwg ar unwaith," meddai. "Er enghraifft, gall pobl awtistig fod yn hynod bryderus wrth wynebu newidiadau annisgwyl, megis eu taith i'r ysgol, i'r cerbyd y maent yn teithio ynddo neu i'w gyrrwr neu eu gofalwyr.

"Gall hyn wneud eu siwrnai yn heriol, os nad yw'n amhosibl.

"Rydym ni fel elusen yn parhau i glywed pryderon gan ddisgyblion awtistig a rhieni ynghylch darpariaeth cludiant ysgol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion bod sicrhau trafnidiaeth ysgol dda i blant yn "bwysig iawn".

"Mae hefyd angen cydymffurfio â'r gyfraith wrth brynu gwasanaethau fel trafnidiaeth, gan wneud hyn mewn ffordd deg ac agored," meddai'r cyngor.

"Mae anghenion plant a phobl ifanc yn cael eu hystyried yn ofalus ac mae pob ymdrech yn cael ei wneud i ddatrys unrhyw faterion y gall ddigwydd pan fod newidiadau i'r gwasanaeth. Bydd y Cyngor yn gwneud popeth y gall i leihau effaith unrhyw newidiadau.

"Cafodd rhieni a gofalwyr plant ag anghenion arbennig, gan gynnwys awtistiaeth, sy'n derbyn darpariaeth tacsi lythyr o hysbys ynglŷn â'r broses tendro.

"Roedd y llythyr yn gwahodd unrhyw riant sydd â phryderon i gysylltu â'r Tîm Anghenion Addysg Arbennig."

Ychwanegodd y llefarydd na fyddai'r cyngor yn gwneud sylw ar achosion unigol.