Cwpan Her Ewrop: Bayonne 11-19 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
Rob EvansFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Rob Evans sgoriodd cais cyntaf y gêm

Mae gobeithion y Scarlets o gyrraedd wyth olaf Cwpan Her Ewrop yn fyw ar ôl iddyn nhw ennill oddi-cartref yn Bayonne nos Sadwrn.

Fe aeth y Scarlets ar y blaen diolch i gais gan y Prop Rob Evans gyda Leigh Halfpenny yn cicio gweddill y pwyntiau.

Daeth cais gorau'r gêm gan Michael Ruru i Bayonne gyda rhediad unigol arbennig.

Ond llwyddodd y Scarlets I oroesi pwysau hwyr y tîm cartref i sicrhau buddugoliaeth cyn i'r ddau dîm gwrdd eto nos Wener nesaf yn Llanelli.