Y Bencampwriaeth: West Brom 5-1 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Colli oedd hanes Abertawe oddi-cartref yn West Brom brynhawn Sul wrth i'r tîm o ganolbarth Lloegr ddychwelyd i frig y Bencampwriaeth gyda buddugoliaeth swmpus o 5-1.
Roedd West Brom ar y droed flaen yn syth gyda Peterson a Bartley yn mynd yn agos at sgorio yn y 10 munud agoriadol.
Fe aeth West Brom ar y blaen wedi 25 munud, yr amddiffynwr Semi Ajayi yn penio i'r rhwyd o chwe llath yn dilyn cic gornel o'r asgell dde gan Grady Diangana.
Roedd y tîm cartref ymhellach ar y blaen 12 munud yn ddiweddarach gyda chroesiad Kieran Gibbs fewn i'r cwrt cosbi yn disgyn wrth droed Pareira a gyda'i gyffyrddiad cyntaf fe osododd y bêl yng nghefn y rhwyd.
Roedd Abertawe nol fewn yn y gêm saith munud cyn yr egwyl. Cic gornel yn hedfan i'r postyn pellaf ble roedd Surridge yn sefyll ar ben ei hun i osod y bêl yn y rhwyd.
Pum seren
Dau funud cyn yr egwyl fe redodd Hal Robson Kanu yn rhydd rhag amddiffyn yr Elyrch i osod y bêl heibio i Woodman yn y gôl a sgorio trydedd West Brom.
Daeth yr hanner cyntaf hynod o agored i ben gyda West Brom ar y blaen yn haeddianol o 3-1.
Fe ddechreuodd yr ail hanner gyda West Brom unwaith eto'n rheoli'r meddiant.
Gydag ugain munud o'r gêm yn weddill fe sgoriodd nhw y bedwaredd, camgymeriad gan Matt Grimes yn colli'r bel yng nghanol y cae ac wedi rhediad cyflym roedd Matt Phillips yn y cwrt i benio o groesiad gan Pareira.
Tri munud yn ddiweddarach roedd hi'n 5-1. Dim ond dau funud nes dod ymlaen fel eilydd fe sgoriodd Kyle Edwards ei gôl gyntaf ar yr Hawthorns.
Pareira unwaith eto wrth wraidd y symudiad ac Edwards yn gorffen yn glinigol i anfon West Brom i frig y tabl ac i goroni perfformiad pum seren.