'Bosib gallai'r DU adael yr UE heb gytundeb' medd Ceidwadwr

  • Cyhoeddwyd
David TC Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Ceidwadwyr eisiau cael 'perthynas dda gyda Ewrop' yn ôl David TC Davies

Mae'n "bosib" y gallai'r DU adael yr UE heb gytundeb ar ddiwedd 2020, yn ôl un ymgeisydd Ceidwadol.

Ond dywedodd David TC Davies nad dyma "ddewis cyntaf" y Ceidwadwyr gan fod y blaid yn dymuno cael cytundeb a "pherthynas dda gydag Ewrop".

Yn y cyfamser mae arweinydd Llafur Cymru wedi amddiffyn safbwynt ei blaid wedi iddynt addo ail-drafod Brexit a chynnal ail refferendwm o fewn chwe mis i'r etholiad.

Dywedodd Mark Drakeford fod yr amserlen yn "risg fawr" a byddai angen "disgyblaeth ac agwedd benderfynol."

'Cwblhau Brexit'

Wrth siarad ar raglen Sunday Politics, fe wnaeth Mr Davies wrthod y feirniadaeth fod neges ganolog y Ceidwadwyr i "gwblhau Brexit" yn gamarweiniol.

Os yw'r Ceidwadwyr yn sicrhau mwyafrif o ran ASau, mae'r blaid yn addo cwblhau y rhan gyntaf o'r broses Brexit erbyn diwedd Ionawr 2020, cyn dechrau'r trafodaethau ar yr ail ran a fydd yn delio â'r berthynas fasnach rhwng y DU a'r UE.

Mae maniffesto'r Ceidwadwyr yn addo peidio ag ymestyn y cyfnod 11 mis ar gyfer trafodaethau masnach heibio i'r dyddiad sydd wedi'i nodi sef Rhagfyr 2020.

Disgrifiad o’r llun,

Os bydd ail refferendwm byddai'r blaid Lafur yn ymgyrchu i aros o fewn yr UE meddai Mark Drakeford

Pan ofynnwyd a yw Brexit digytundeb dal yn bosibl ar ddiwedd y cyfnod trawsnewidiad, dywedodd Mr Davies: "Mae'n bosibl bod yn rhaid derbyn hynny.

"Dydyn ni ddim eisiau Brexit digytundeb. Nid dyma ddewis cyntaf unrhyw un yn y blaid.

"Rydym eisiau cytundeb, rydym eisiau perthynas dda gydag Ewrop, ond rydym eisiau iddyn nhw dderbyn y ffaith ein bod yn gadael.

"Ond, mae unrhyw un sydd wedi gwneud unrhyw fath o drafod yn gwybod nad oes modd trafod unrhyw beth os nad ydych yn fodlon cerdded i ffwrdd a dyna'r strategaeth oedd yn digwydd y llynedd."

Ym mis Tachwedd, dywedodd Mr Drakeford fod angen i Llafur weithio'n galetach i egluro eu polisi Brexit i gefnogwyr sy'n dymuno gadael y UE.

'Ymgyrchu i aros'

Roedd yn ymateb i adroddiadau fod y blaid yn newid ei strategaeth etholiadol i ennill pleidleisiau mewn ardaloedd wnaeth bleidleisio dros Brexit.

Pan ofynnwyd iddo a yw Llafur wedi meddu'r strategaeth gywir o ran Brexit, dywedodd Mr Drakeford: "Mae'n gweithio ar y llawr. Os ydych eisiau ail gyfle o ran Brexit, dim ond drwy roi pleidlais i'r blaid Lafur allwch chi wneud hynny.

"Felly beth bynnag yw eich safbwynt ar Brexit, os yr ydych eisiau'r penderfyniad fod yn eich dwylo chi a neb arall, yna mae'n rhaid i chi bleidleisio dros y blaid Lafur.

"Yma yng Nghymru, os gawn ni'r ail gyfle, fe fyddwn yn ymgyrchu i aros."

O ran addewid y blaid i aildrafod cytundeb Brexit newydd a chynnal ail refferendwm o fewn chwe mis ar ôl yr etholiad, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn credu fod hynny'n "bosib."

"Mae'n ofyn mawr, dwi'n cytuno yn hynny o beth, bydd angen disgyblaeth ac agwedd benderfynol," meddai.