Gwersi gwleidyddol ac esgidiau brôg

  • Cyhoeddwyd
Dylan Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

O Geraint Howells i Denis Healey, cafodd Dylan Iorwerth sawl wers wleidyddol yn ystod ei gyfnod fel gohebydd seneddol

Efallai bod y pynciau a'r personoliaethau yn wahanol heddiw, ond yr un yw gêm y gwleidyddion wrth iddyn nhw grwydro'r etholaethau i geisio ennill pleidleisiau yn nyddiau olaf ymgyrch etholiad cyffredinol 2019.

Roedd y newyddiadurwr a'r prifardd Dylan Iorwerth yn ohebydd seneddol i BBC Cymru yn Llundain cyn sefydlu cylchgrawn Golwg ac mae'n cofio sut dechreuodd ei addysg wleidyddol yng Ngheredigion gan wleidydd "oedd byth yn trafod gwleidyddiaeth".

line

"Rhyw fath o eilydd o'n i wrth ohebu ar fy ymgyrch etholiadol gynta', yn ôl yn 1983. Ond, trwy gael fy nanfon i Geredigion i gymryd lle'r gohebydd arferol (oedd ar wyliau), mi ddysgais i sawl gwers wleidyddol.

"Geraint Howells yn sefyll fel craig y tu allan i Siop y Pethe yn Aberystwyth... doedd o ddim yn gorfod mynd at bobl; roedd pawb yn dod ato fo. A doedd o byth yn trafod gwleidyddiaeth.

"'Fachgen, fachgen, mae'n edrych yn ddrwg,' meddai. 'Mae'r Torïaid yn mynd i ennill.' A'r hen lwynog o Bonterwyd yn gobeithio y byddwn i'n darlledu hynny - sbardun perffaith i berswadio cefnogwyr Llafur a Phlaid Cymru i'w gefnogi o.

Geraint Howells
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Howells: "...doedd o ddim yn gorfod mynd at bobl; roedd pawb yn dod ato fo. A doedd o byth yn trafod gwleidyddiaeth"

"Isetholiadau fuodd wedyn yn fy nghyfnod yn ohebydd yn San Steffan - o Tony Benn yn cipio Chesterfield (a'r cawr Denis Healey'n areithio'n gofiadwy yn y cyfarfod gwleidyddol gorau a welais i erioed, gan alw Margaret Thatcher yn 'Catherine the Great of Finchley') i gyfres o isetholiadau ar draws Gogledd Iwerddon wrth i'r Unoliaethwyr brotestio yn erbyn y Cytundeb Eingl-Wyddelig.

"Dyna pryd y mentrais i (yn wirion braidd) i Crossmaglen yn agos at y ffin, lle'r oedd milwyr yn cerdded wysg eu cefnau a hofrenyddion milwrol yn glanio yn y cae ffwtbol. Dyna be ydi gwleidyddiaeth o ddifri.

"Ar y ffordd yn ôl i Belffast â ffilm yng nghefn y car, mi welais i goed yn symud ... un set o filwyr yn atal ceir, y lleill yn cuddio mewn brigau o boptu'r ffordd, a'u gynnau'n anelu'n syth ata' i.

Dylan Iorwerth wrth ei waith fel gohebydd seneddol yn 1986
Disgrifiad o’r llun,

Dylan Iorwerth wrth ei waith fel gohebydd seneddol yn 1986

"Roedd hi'n fwy heddychlon ym Mrycheiniog a Maesyfed yn 1985, lle'r enillodd un o ddisgyblion Geraint Howells. Gwers wleidyddol arall. Yn y sedd amaethyddol honno, roedd gweld esgidiau brôg cyfforddus Richard Livsey yn ddigon i wybod y byddai'n ennill. Mae undod rhwng ymgeisydd ac etholaeth mor bwysig â pholisïau."

Hefyd o ddiddordeb: