Cymru i herio Awstria mewn gêm gyfeillgar
- Cyhoeddwyd
Bydd Cymru yn wynebu Awstria mewn gêm gyfeillgar ar ddydd Gwener 27 Mawrth, 2020, wrth i'r tîm baratoi ar gyfer Euro 2020.
Y gêm gartref fydd y gyntaf o gemau paratoi Cymru cyn wynebu Y Swistir, Twrci a'r Eidal yng Ngrŵp A yn Euro 2020 ym mis Mehefin.
Y tro diwethaf i Gymru chwarae Awstria oedd yn ystod gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018, gyda gôl Ben Woodburn yn gwahanu'r ddau dîm
Mae Awstria hefyd wedi sicrhau eu lle yn rowndiau terfynol Euro 2020, lle byddan nhw'n herio'r Iseldiroedd, Iwcrain ac un tîm arall sydd eto i'r benderfynu.
Llwyddodd tîm Ryan Giggs i sicrhau eu lle ar ôl buddugoliaeth 2-0 yn erbyn Hwngari yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar 19 Tachwedd.
O ran Euro 2020, Y Swistir fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn Baku ar ddydd Sadwrn, 13 Mehefin.
Yna fe fyddan nhw'n wynebu Twrci, hefyd yn Baku ar ddydd Mercher, 17 Mehefin.
Bydd eu gêm olaf yng Ngrŵp A yn Rhufain yn erbyn yr Eidal ar ddydd Sul 21 Mehefin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd30 Tachwedd 2019