Euro 2020: Cymru i herio'r Swistir, Twrci a'r Eidal

  • Cyhoeddwyd
Cymru yn dathlu cyrraedd Euro 2020Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r eildro mewn pedair blynedd i Gymru gyrraedd Pencampwriaethau Ewrop

Bydd Cymru yn wynebu'r Swistir, Twrci a'r Eidal yn Euro 2020, gyda gemau grŵp A yn cael eu cynnal yn Baku a Rhufain.

Y Swistir fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru yn Baku ar ddydd Sadwrn, 13 Mehefin.

Yna fe fyddan nhw'n wynebu Twrci, hefyd yn Baku ar ddydd Mercher, 17 Mehefin.

Bydd eu gêm olaf yn Grŵp A yn Rhufain yn erbyn yr Eidal ar ddydd Sul 21 Mehefin.

Cafodd y grwpiau terfynol eu dewis mewn seremoni yn Bucharest brynhawn Sadwrn.

Disgrifiad,

Carl Roberts gohebydd Chwaraeon BBC Cymru yn Bucharest

Llwyddodd tîm Ryan Giggs i sicrhau eu lle yn y gystadleuaeth ar ôl trechu Hwngari o 2-0 yn eu gêm ragbrofol olaf yn gynharach yn y mis.

Bydd y gystadleuaeth rhwng 12 Mehefin a 12 Gorffennaf yn cynnwys 24 o dimau, wedi'u rhannu yn chwe grŵp o bedwar - yr un drefn ac y cafwyd yn Euro 2016.

Dywedodd Giggs y bydd y gemau yn rhai anodd.

"Mae'r Swistir yn dîm da, yn dîm talentog, ac fe ddaeth Twrci drwodd mewn grŵp oedd yn cynnwys Ffrainc a Gwlad yr Iâ a gwneud yn dda," meddai.

"A bydd Yr Eidal yn Rhufain yn amlwg yn gêm hynod o galed."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Giggs wedi ennill wyth o'i 18 gêm wrth y llyw gyda Chymru

Dywedodd y cyn-chwaraewr rhyngwladol Owain Tudur Jones wrth BBC Cymru Fyw ei fod yn fodlon iawn gyda'r grŵp.

"Heb feddwl gormod am y peth, rhaid i mi gyfaddef bod yna wen ar fy wyneb pan ddaeth enw Cymru allan," meddai.

"Mi fyddai'r opsiwn arall, Grŵp B, wedi bod yn anodd - roedd hwnna yn fy nychryn mymryn, dwy gêm i ffwrdd yn erbyn Denmarc a Rwsia, a hefyd Gwlad Belg - er gwaetha' ein record yn eu herbyn."

Ychwanegodd y bydd chwarae dwy gêm yn Baku yn fantais i'r tîm a'r cefnogwyr.

"Mae'r gemau cyntaf, y ddwy yn Baku ac yn syth ar ôl ei gilydd," meddai.

"Gemau yn erbyn Y Swistir a Twrci, gemau caled wrth sgwrs.

"Ond mae'n golygu fod Cymru yn gallu paratoi i gael base yn Baku am y cyfnod agoriadol, ac mae hynny'n enfawr."

Ar ôl y gemau grŵp

Mae 20 o'r timau fydd yn cystadlu yn Euro 2020 eisoes wedi'u cadarnhau, a bydd pedwar arall yn ymuno â nhw yn dilyn y gemau ail gyfle ym mis Mawrth.

Bydd y gystadleuaeth yn cael ei chwarae ar draws 12 dinas wahanol yn Ewrop, gyda'r gwledydd hynny yn cael mantais gartref yn y gemau grŵp os ydyn nhw wedi cyrraedd.

Bydd y ddau dîm uchaf ym mhob grŵp, yn ogystal â phedwar o'r timau sy'n gorffen yn drydydd, yn mynd drwyddo i rownd yr 16 olaf.

Mae ffeinal a rownd gynderfynol Euro 2020 yn cael eu chwarae yn Wembley, Llundain, ac mae dinasoedd Glasgow a Dulyn hefyd ymhlith y dwsin sydd yn cynnal rhai o gemau'r gystadleuaeth.