Dau yrrwr yn yr ysbyty wedi gwrthdrawiad ger Penisarwaun
- Cyhoeddwyd
Mae dau yrrwr yn cael triniaeth ysbyty yn Stoke wedi gwrthdrawiad difrifol yng Ngwynedd nos Lun.
Cafodd yr heddlu eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans am 18:45 i'r A4244 yn ardal Penisarwaun, rhwng Deiniolen a Llanrug, wedi'r gwrthdrawiad oedd yn cynnwys dau gar lliw arian.
Fe gafodd dynes oedd yn gyrru Nissan Almera a dyn oedd yn gyrru Kia Nero eu cludo mewn hofrennydd i Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke.
Mae Heddlu Gogledd Cymru'n apelio am wybodaeth a lluniau dash cam gan unrhyw un allai fod wedi gweld y gwrthdrawiad, neu'r cyfnod cyn y gwrthdrawiad
Dywedodd y Sarjant Meurig Jones o'r Uned Plismona'r Ffyrdd eu bod "yn arbennig o awyddus" i glywed gan unrhyw un a welodd y Nissan Almera'n teithio o gyfeiriad yr A4086 yng Nghwm-y-Glo.
Ychwanegodd eu bod yn ddiolch i'r cyhoedd "am eu hamynedd" tra bo'r ffordd ar gau nos Lun "gan fod y digwyddiad yma wedi tarfu ar yr ardal yn sylweddol".