David Brooks yn cael ail lawdriniaeth i'w figwrn
- Cyhoeddwyd
Mae pêl-droediwr Cymru, David Brooks, wedi cael ail lawdriniaeth i'w figwrn mewn ysbyty yn Qatar, sy'n golygu na fydd yn gallu chwarae eto am dri mis yn rhagor.
Dywed ei glwb, Bournemouth, eu bod "yn dawel hyderus" y bydd yn ôl ar y cae cyn diwedd y tymor ond dydyn nhw ddim yn awgrymu unrhyw amserlen benodol.
Roedd disgwyl yn wreiddiol i'r asgellwr 22 oed fod allan o'r gêm am 12 wythnos yn dilyn llawdriniaeth wedi anaf yn ystod gêm gyfeillgar ym mis Gorffennaf.
Oherwydd yr anaf, fe gollodd Brooks ail hanner ymgyrch Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020 haf nesaf.
Mae Bournemouth yn gobeithio bydd wedi gwella digon i allu chwarae eto erbyn mis Mawrth.
Bydd Cymru'n wynebu Awstria mewn gêm gyfeillgar ar 17 Mawrth wrth baratoi ar gyfer gêm gyntaf Euro 2020 pan fyddan nhw'n herio'r Swistir yn Baku ar 13 Mehefin.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2019