David Brooks yn arwyddo cytundeb newydd gyda Bournemouth

  • Cyhoeddwyd
David BrooksFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae David Brooks wedi sgorio chwe gôl i'r Cherries eleni

Mae chwaraewr canol cae Cymru, David Brooks wedi arwyddo cytundeb "hir dymor" newydd gyda Chlwb Pêl-droed Bournemouth.

Daw'r cyhoeddiad lai na blwyddyn ar ôl i Brooks arwyddo i'r Cherries am £10m o Sheffield United yn ystod haf 2018.

Yn dilyn tymor llwyddiannus gyda Bournemouth mae'r chwaraewr 21 oed wedi cael ei gysylltu gyda rhai o dimau mwyaf Uwch Gynghrair Lloegr.

Mae Brooks wedi llwyddo i sgorio chwe gôl mewn 26 gêm y tymor hwn.