Pwysau ar griwiau badau achub wedi cynyddu'n aruthrol

  • Cyhoeddwyd
criw eto

Wrth i'r Nadolig nesáu, mae sefydliad y badau achub - yr RNLI - yn dweud bod y pwysau ar eu criwiau'r adeg yma o'r flwyddyn wedi cynyddu'n aruthrol dros y degawd diwetha'.

Rŵan mae'r elusen ei hun yn galw am gymorth i sicrhau bod aelodau yn gallu parhau i achub bywydau.

Wrth i'r pwysau gynyddu ar y staff a'r gwirfoddolwyr, felly hefyd ar goffrau'r RNLI - sy'n dweud bod eu hadnoddau ariannol wedi gostwng dros £28 miliwn y llynedd.

A hwythau'n dibynnu'n llwyr bron ar garedigrwydd y cyhoedd, maen nhw'n dweud bod cyfraniadau o'r fath yn bwysicach nag erioed.

Mae'r elusen wedi lansio ymgyrch godi arian newydd, Y Storm Berffaith, gyda'r nod o gyrraedd £1.8 miliwn a'u helpu i recriwtio 12,000 yn fwy o gefnogwyr.

Dros y 10 Nadolig diwetha', mae nifer y galwadau i'r RNLI yng Nghymru wedi codi 187%, gyda badau achub Cymreig wedi cael eu galw allan 23 o weithiau dros yr Ŵyl y llynedd i helpu 20 o bobl.

Disgrifiad o’r llun,

Ken Fitzpatrick: 'Cerdded adeg y Nadolig yn rhywbeth mawr erbyn hyn'

Yn ôl Ken Fitzpatrick, rheolwr yr orsaf bad achub ym Mhorthdinllaen, mae sawl rheswm am y cynnydd.

"Mae 'na fwy a mwy o bobl yn cymryd eu gwyliau dros y Nadolig ac yn mynd lawr i'r arfordir - defnyddio cychod ond hefyd cerdded yn rhywbeth mawr erbyn hyn," meddai.

"Mae 'na gannoedd o bobl yn cerdded ar hyd yr arfordir a dydy pobl ddim yn meddwl os ydyn nhw'n disgyn drosodd, pwy sy'n mynd i'w hachub nhw.

"Mae'r cŵn yn mynd o'u blaenau nhw, ma' pethau fel 'na yn digwydd. Hefyd dwi'n meddwl bod y tywydd lot mwy tyner rŵan nag oedd o yn y gorffennol, felly ma' mwy o bobl yn mynd allan."

Wrth i'r galwadau Nadolig gynyddu, mae mwy o siawns nag erioed y bydd rhai sydd ar alwad yn cael eu galw allan.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Owain ar alwad ar ddiwrnod nadolig eleni

Un o'r rhai fydd ar ddyletswydd diwrnod Nadolig ydy Owain Williams, sy'n gweithio llawn-amser i'r RNLI ym Mhorthdinllaen yn llywio'r cwch.

Dywedodd: "Hwn fydd y Dolig cynta' i fi fod ar alwad efo'r RNLI, wedyn ma' hynny'n golygu bod ni'n gorfod bod o fewn 10 munud i'r cwt, bod y pagers gynnon ni 24 awr y dydd ac y gallen ni gael ein galw allan ar unrhyw funud.

"Erbyn hyn dwi 'di dod i arfer efo fo ond mae 'na rwbath yn gefn eich meddwl chi. Fydd 'na 'sgidiau yn barod wrth y drws, fydd 'na ddillad yn barod i fynd rhag ofn.

"Ella na chawn ni'n galw allan a fydd o'n ddiwrnod normal ond mae o'n chwarae yng nghefn eich pen chi.

"Allwn ni fod yn delio efo unrhyw beth - pobl yn cerdded ar hyd llwybr yr arfordir, cŵn ym mynd dros glogwyni, ma'r cychod pysgota'n mynd drwy'r flwyddyn ac unrhyw beth mwy wedyn fel llongau masnach ac ati.

"Mae gynnon ni ddau llawn-amser yn yr orsaf ym Mhorthdinllaen, so fydd 'na coxswain ar alwad a fydd 'na beiriannydd ar alwad, ond 'da ni angen rhyw wyth o griw wedyn i lansio'r cwch felly fydd 'na o leia' chwe gwirfoddolwr ar alwad hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Luned, Lois ac Owain wrth y goeden Nadolig

"'Da ni byth yn gwybod pan fydd y pagers yn mynd be' 'da ni'n cael ein galw allan iddo. I fod yn onest, 'da ni'n gobeithio gawn ni gyfnod tawel lle na fydd rhaid i ni fynd allan.

"Ond wedyn 'da ni wedi cael ein hyfforddi i ddelio efo pob math o bethau, felly be' bynnag ddaw fyddwn ni'n barod i ddelio efo fo."

Cynllunio am ddiwrnod gwahanol

Ag yntau'n dad i Lois, sydd bron yn ddyflwydd oed, fe fydd unrhyw alwad yn golygu fod y teulu'n gorfod dathlu'r Nadolig hebddo.

Yn ôl Luned Eurig, partner Owain, mae'n rhaid parhau i gynllunio ar gyfer y diwrnod waeth beth fydd yn codi.

"Eleni 'da ni wedi penderfynu aros gartre' gan fod Owain ar alwad," meddai. "Ni'n methu mynd lawr i'r de at fy rhieni fel 'naethon ni'r llynedd.

"Ma' Mam a Dad falle yn dod fyny aton ni, a ni'n gobeithio bydd dim galwad i Owain fynd allan ar y bad achub a bydd e'n gallu cael diwrnod Nadolig gyda ni fan hyn.

"Ond os bydd y pager yn canu a bo fe'n gorfod mynd, bydden ni'n delio gyda hynny ac yn cario 'mlaen gan obeithio bydd e ddim yn hir."